Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 16 Ionawr 2019.
Bydd yr Aelod yn falch o wybod fy mod yn cynnal adolygiad o'r diffiniad o statws cwmni angori a chwmnïau o bwys yn rhanbarthol. Nid oes unrhyw amheuaeth fod cwmnïau mawr yn gwneud cyfraniad enfawr i economi Cymru. Yn 2018, Lywydd, roedd 1,675 o fentrau mawr yn weithredol yng Nghymru, sef 0.6 y cant o'r holl fentrau gweithredol yng Nghymru, sy'n llawer uwch na'r ffigur cyfatebol ar gyfer y DU o 0.1 y cant. Fel y gwelsom gyda chwmnïau fel Aston Martin ac Airbus, mae cwmnïau yr ystyrir eu bod yn gwmnïau angori ar hyn o bryd yn hynod o bwysig ar gyfer ysgogi twf o fewn eu cadwyni cyflenwi.