Seilwaith Trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 16 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:19, 16 Ionawr 2019

Fe allwn ni i gyd, dwi'n siŵr, groesawu'r ffaith bod yna fuddsoddiad yn mynd i fod mewn gorsafoedd yng nghyd-destun y rheilffordd yng Nghymru. Dydw i ddim yn gwybod os ydy'r Gweinidog yn ymwybodol, ond mae Network Rail wedi bod yn gweithio'n agos gyda sefydliadau sydd yn gweithio i drio atal hunanladdiadau. Mi oedd yna 237 hunanladdiad ar y rheilffyrdd ym Mhrydain yn 2016—4.5 y cant o holl hunanladdiadau Prydain. Nawr, mae ymchwil yn dangos bod pobl sydd yn ystyried hunanladdiad mewn gorsaf drên yn dilyn patrwm ymddygiad tebyg, ac mae modd defnyddio goleuadau, meinciau sy'n wynebu oddi wrth y traciau, barriers ychwanegol, llinellau penodol ar y platfform ac yn y blaen. Mae modd defnyddio'r rhain er mwyn trio taclo'r tueddiadau yma tuag at hunanladdiad mewn gorsafoedd trên. Felly, wrth i ni edrych i fuddsoddi yn y gwelliannau yma yn ein gorsafoedd ni, a allwch chi roi sicrwydd y byddwch chi'n gweithio'n agos gyda'r dull yna o daclo hunanladdiadau er mwyn sicrhau bod y buddsoddiad yn cael y budd gorau posib?