Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 16 Ionawr 2019.
A gaf fi ofyn i'r Prif Weinidog beth sy'n digwydd nawr? Beth sy'n digwydd pan fydd Theresa May yn ennill y bleidlais o ddiffyg hyder heddiw? A ydych yn cytuno â mi nad oes gan Jeremy Corbyn unrhyw weledigaeth glir ar Ewrop chwaith—nid yw'n ddim cliriach na Theresa May—felly byddai etholiad cyffredinol yn gwbl ddibwrpas? A wnewch chi gefnogi refferendwm pleidlais y bobl yn lle hynny?