Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 22 Ionawr 2019.
Iawn. Diolch. [Torri ar draws.] Esgusodwch fi. Ni wnaf i dderbyn pobl yn pwyntio ar draws y Siambr at unrhyw un, o ble bynnag y daw, ac ni wnaf i dderbyn unrhyw gymorth gan bobl am yr hyn sy'n dderbyniol neu beidio. Fi fydd yn gwneud dyfarniad ar yr hyn sy'n dderbyniol. Apeliais yr wythnos diwethaf i ni ymgymryd â gwleidyddiaeth fwy caredig. Mae hynny'n berthnasol i bawb. Ewch ymlaen.