Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 22 Ionawr 2019.
Wel, mae gen i ofn bod gweithredoedd yn well na geiriau, Prif Weinidog, oherwydd mae eich arweinydd, Jeremy Corbyn, yn gwrthod eistedd wrth y bwrdd gyda Phrif Weinidog y DU i drafod goblygiadau Brexit, ac, yr wythnos diwethaf, gwelsom lwythgarwch dim ond er mwyn llwythgarwch gan eich plaid a'ch Llywodraeth yn y lle hwn, pan wnaethoch chi bleidleisio yn erbyn y Bil awtistiaeth. Ar ôl methu—[Torri ar draws.] Ar ôl methu â gweithio gyda mi—ar ôl methu â gweithio gyda mi na—