Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 22 Ionawr 2019.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Prif Weinidog, cyfeiriodd Adam Price yn gryno at fater Brexit yn ei gwestiynau. Fel y mae'r ddau ohonom ni'n ei wybod, mae 66 diwrnod ar ôl cyn y disgwylir i'r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Mae Theresa May wedi diystyru gohirio'r dyddiad ymadael. Mae hi hefyd wedi diystyru ail refferendwm, felly y sefyllfa fel y mae hi yw ein bod ni'n gadael yr UE ar 29 Mawrth. O ystyried hynny Prif Weinidog, a fyddai'n syniad da pe byddai Llywodraeth Cymru yn derbyn y canlyniad hwn erbyn hyn a chanolbwyntio ar baratoi ar gyfer y Brexit heb gytundeb yn hytrach na cheisio atal Brexit rhag digwydd?