Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 22 Ionawr 2019.
Wel, yn ysbryd gwleidyddiaeth fwy caredig, efallai y gallaf i helpu'r Prif Weinidog. Yn ddiweddarach y prynhawn yma, bydd gennym ni gyfres o ddatganiadau ar gynllunio i liniaru effaith Brexit heb gytundeb. Mae un maes sy'n rhyfedd o absennol, sef yr economi. Nawr, mae'r Canghellor yn San Steffan wedi cadarnhau y byddai ysgogiad cyllidol brys mewn achos o Brexit heb gytundeb, tebyg i'r un a ddefnyddiwyd gan Gordon Brown ar adeg yr argyfwng ariannol. Nawr, does bosib nad oes angen cynllun tebyg ar Lywodraeth Cymru, ac yn sgil y newyddion ynghylch Ford a Wylfa, rydym ni ei angen ar frys. Felly, pam na wnawn ni ofyn i Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru sydd newydd gael ei sefydlu nodi prosiectau mawr ledled Cymru yn rhan o raglen buddsoddiad cyfalaf gwerth sawl biliwn? Gallech chi ariannu hynny trwy eich bond Llywodraeth Cymru newydd eich hun—mewn achos trychinebus o ddim cytundeb, bond Brexit y gallai dinasyddion Cymru ei brynu i chwarae eu rhan yn y gwaith o helpu i ailadeiladu economi Cymru. Dyma'r union fath o ymateb creadigol a chydweithredol a arweiniodd, yn ystod yr argyfwng economaidd diwethaf, at syniadau fel ProAct a ReAct a chyfres o uwchgynadleddau economaidd brys yn ysbryd tîm Cymru.
Ond wyddoch chi, Prif Weinidog, mae angen capten ar dîm Cymru, ac mae angen cynllun arno. Rwyf i wedi clywed Gweinidog yr economi yn cyflwyno rhestr hirfaith o bosibiliadau ar gyfer Cymru, ac yn eu plith oedd Cymru'n dod yn gartref i dechnoleg heb yrrwr. Ar hyn o bryd, mae gennym ni Lywodraeth heb yrrwr, ac o ganlyniad i hynny, mae gennym ni economi heb yrrwr hefyd.