Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 22 Ionawr 2019.
Wel, Dirprwy Lywydd, mae cynnig y ffordd liniaru wedi bod yn destun ymchwiliad cyhoeddus lleol annibynnol, y mwyaf cynhwysfawr o'i fath ar gyfer unrhyw gynllun ffordd yng Nghymru. Sicrhawyd cyngor cyfreithiol uwch o'r tu allan i Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cyngor sy'n mynd i Weinidogion wedi ei brofi'n drylwyr a'i fod yn ymdrin â holl wahanol ddimensiynau y cynllun cymhleth hwn. Pan fydd y cyngor hwnnw ar gael, byddaf yn ei ystyried yn ofalus ac yn ddiduedd.