Part of the debate – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 22 Ionawr 2019.
Gweinidog, a gaf i ofyn am gwestiwn gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, yn dilyn y cyhoeddiad ar yr wybodaeth ddiweddaraf gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig fis diwethaf ynglŷn â'i strategaeth i ddileu TB buchol? Mae ystadegau yn yr wybodaeth ddiweddaraf yn dangos bod difa moch daear mewn ardaloedd o Loegr lle bo'r clefyd yn endemig wedi lleihau lefel TB buchol yn sylweddol. Mae hyn yn wahanol i ardaloedd yng Nghymru sydd â lefelau TB uchel, lle bo nifer yr achosion mewn gwartheg yn sefydlog ar y gorau. O gofio bod bron i 10,000 o wartheg wedi eu difa rhwng mis Ionawr a mis Medi y llynedd, a oes gan y Gweinidog unrhyw gynlluniau i adolygu ei rhaglen i ddileu TB yng ngoleuni'r dystiolaeth sy'n dod o Loegr, os gwelwch yn dda?