Part of the debate – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 22 Ionawr 2019.
Mae'n glir, Lywydd, bod Mrs May yn parhau i ganolbwyntio ar geisio cyflawni'r amhosibl—darparu cytundeb sy'n dderbyniol i'r 27 o aelodau'r UE ac i'r DUP ac i gefnogwyr Brexit caled—yn hytrach na cheisio sicrhau consensws newydd ar draws y Senedd. Sut gallai'r Prif Weinidog ddisgwyl y byddai ASau dros nos yn cefnogi fersiwn o'i chytundeb gyda mân addasiadau iddo, pan gafodd ei wrthod mor bendant? Yn syml, ni fydd hyn yn digwydd. Felly, yr ail beth a ddylai ddigwydd, pan fydd y bygythiad o adael yr UE heb gytundeb wedi'i ddileu, yw bod yn rhaid i'r Prif Weinidog wneud cais am estyniad i broses erthygl 50. Ni allwn ni fentro gyda dyfodol ein gwlad gyda therfynau amser a osodwyd arnom ein hunain a'r perygl o hunan-niweidio y mae'r trafodaethau munud olaf hyn yn ei achosi. Mae'n rhaid i Lywodraeth y DU ddod at ei gilydd a chytuno ar gynnig sydd â chefnogaeth y Senedd, boed hynny'n gytundeb gwahanol sy'n adlewyrchu 'Sicrhau Dyfodol Cymru', neu drwy drefnu ail bleidlais gyhoeddus—y safbwynt, mewn gwirionedd, a gafodd ei gymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol hwn ar 4 Rhagfyr.
O'r cychwyn, Llywydd, roedd Llywodraeth Cymru yn dangos yn glir ei bod yn parchu canlyniad refferendwm 2016, ac rydym wedi canolbwyntio bob amser ar ffurf Brexit yn hytrach na'i ffaith. Am y rheswm hwnnw, hyd yn oed ar yr awr hwyr hon, fe ddylai'r Senedd chwilio am bob ffordd i sicrhau canlyniad i'r broses Brexit a fydd yn parchu'r refferendwm ac ar yr un pryd yn ein hamddiffyn rhag difrod i'r economi ac i wead ein cymdeithas. Ond y ddadl yn y Senedd dros yr wythnos nesaf yw'r cyfle olaf i gefnogi'r ffurf honno ar Brexit, ffurf sy'n seiliedig yn y bôn ar barhau i gymryd rhan yn y farchnad sengl a'r undeb tollau. Llywydd, os na ellir gwneud hynny, mae Brexit lle y gallem adael yr UE heb gytundeb yn sefyllfa mor ddifrifol fel ei bod yn golygu, os na all y Senedd gytuno gyda mwyafrif i sicrhau ein buddiannau tymor hir, yr unig ddewis sydd ar ôl wedyn yw pleidlais gyhoeddus unigol er mwyn datrys yr anghytundeb llwyr.
Hefyd, i osgoi unrhyw amheuaeth, gadewch imi ddweud hyn: yn 2016, roedd cyngor Llywodraeth Cymru yn ddiamwys—bod ein dyfodol yn fwy diogel drwy barhau i fod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd. Nid oes dim, dros gyfnod o fwy na dwy flynedd o waith manwl ar Brexit, wedi ein hargyhoeddi i newid y farn honno. Yn y cyfamser, gan fod Brexit heb gytundeb yn parhau i fod yn risg uchel iawn, fel Llywodraeth gyfrifol, mae gennym ni ddyletswydd i nodi canlyniadau hynny i Gymru ac i ddangos sut yr ydym yn ceisio lliniaru'r canlyniadau hynny.
Mewn cyfres o ddatganiadau, bydd Gweinidogion yn amlinellu'r peryglon a wynebwn ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, yr economi ac yn y gymdeithas yn ehangach. Mae'r effeithiau o bosibl yn rhai eang iawn ac fe fyddan nhw'n effeithio ar bawb. Nid pryderon rhagdybiaethol na damcaniaethol yw'r rhain, ond realiti'r sefyllfa y gallem ganfod ein hunain ynddi nawr. Mae'r gyfres o ddatganiadau heddiw yn rhan o'n penderfyniad i sicrhau bod Aelodau'r Cynulliad yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr holl waith hwn. Ar hyn o bryd, Llywydd, y gwir amdani yw nad oes neb yn gwybod mewn gwirionedd beth fydd yn digwydd pe byddai Brexit heb gytundeb. Mae'n dilyn felly na fedr Cymru na'r Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd fod yn gwbl barod am bob posibilrwydd. Bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth y gallwn gan ddefnyddio pob cyfle i ymuno ag eraill i ddwyn perswâd ar y Prif Weinidog i gefnu ar y llwybr trychinebus hwn, i atal y niwed y byddai'n ei achosi i'n gwlad, ac i ddod o hyd i ffordd well ymlaen.