Part of the debate – Senedd Cymru am 3:45 pm ar 22 Ionawr 2019.
Llywydd, a gaf i ddiolch i Paul Davies am y ffordd yr agorodd ei gyfraniad ac am ddychwelyd at y thema honno ar y diwedd? Yr oeddwn i'n ddiolchgar iddo am dderbyn y gwahoddiad i gyfarfod yr wythnos diwethaf, a nodaf yn ofalus iawn ei gynnig i barhau â'r trafodaethau ar ôl heddiw. Yn sicr, mae hwnnw'n gynnig y byddaf yn manteisio arno.
Gan droi at rai o'r cwestiynau penodol a godwyd ganddo, y safbwynt a nodir gan arweinydd y Blaid Lafur yn San Steffan yw'r safbwynt yr wyf i wedi ei amlinellu y prynhawn yma: y dylai'r Prif Weinidog gymryd 'gadael yr UE heb gytundeb' oddi ar y bwrdd. Dyna'r ffordd i chwalu'r dagfa sydd wedi datblygu yn San Steffan, ac mae hyn yn rhywbeth sydd o fewn gallu'r Prif Weinidog; gall hi ei gwneud yn glir y byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, ond y byddwn yn gwneud hynny mewn modd sydd wedi ei gynllunio, yn drefnus ac sydd â chytundeb gyda'r Undeb Ewropeaidd. Os gall hi gymryd 'gadael heb gytundeb' oddi ar y bwrdd, bydd hynny yn newid yr awyrgylch, bydd yn caniatáu i'r trafodaethau hynny ddigwydd, a dyna ddylai hi ei wneud.
Rwyf eisiau gwneud yn glir unwaith eto y safbwynt a nodais ynglŷn ag ail refferendwm, gan nad wyf yn dymuno i hynny gael ei gamddeall. Yr hyn a ddywedais yw y dylai'r Senedd barhau i weithio mor galed â phosibl i ddod o hyd i gytundeb—cytundeb sy'n parchu'r refferendwm ac yn diogelu ein heconomi. Ac rwy'n credu ei bod hi'n parhau i fod yn bosibl y byddan nhw'n canfod cydbwysedd yn Nhŷ'r Cyffredin ynghylch dull penodol lle yr ydym yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ac yn lliniaru'r niwed y bydd hynny'n ei achosi. Yr hyn a ddywedais wedyn oedd, os bydd hynny'n profi i fod yn amhosibl, os bydd Tŷ'r Cyffredin dros y dyddiau nesaf yn methu â dod i benderfyniad ac nad oes mwyafrif o blaid unrhyw fath o gytundeb, yna, y ffordd orau i ddatrys yr anghytundeb llwyr bryd hynny fydd gofyn y cwestiwn i'r bobl y gofynnwyd y cwestiwn iddynt yn y lle cyntaf. Ac rwy'n gwrthod yn llwyr y cyhuddiadau oddi ar y meicroffon fod hyn rywsut yn ffordd gwrth-democrataidd o wneud pethau. Fe bleidleisiais i dros Lywodraeth yn 1997. Nid oeddwn i'n disgwyl y byddai'r canlyniad yn para am byth. Yn wir, gofynnwyd i mi eto yn 2001 a rhoddais yr un ateb. Yn wir, gofynnwyd yr un peth unwaith eto yn 2005 a rhoddais yr un ateb eto. Felly, mae'r syniad ei bod yn amhosibl i fynd yn ôl at y bobl sydd wedi rhoi mandad democrataidd a phenderfyniad, a gofyn iddynt am adolygiad pellach, yn hurt mewn unrhyw ddemocratiaeth. Dyna pam yr wyf i wedi dweud os yw'r Tŷ'r Cyffredin yn methu â dod i benderfyniad, yna efallai mai mynd yn ôl at y bobl y mae unrhyw fandad democrataidd wedi tarddu oddi wrthynt, yw'r ffordd o ddatrys hynny.
Gofynnodd Paul Davies i mi am yr hyn yr ydym ni'n ei wneud i helpu rhanddeiliaid. Bydd wedi gweld y porth busnes Brexit a ddarparwyd gennym. Bydd wedi gweld y wefan newydd Paratoi Cymru, sydd wedi cael dros 2,000 o ymwelwyr gwahanol ers ei lansio lai nag wythnos yn ôl, ac mae Gweinidogion yn parhau i gwrdd â rhanddeiliaid yn eu meysydd portffolio yn rheolaidd iawn.
Gofynnodd am wella cyfathrebu. Bydd wedi gweld, rwy'n gobeithio, y cymorth yr ydym wedi gallu ei ddarparu drwy gronfa pontio £50 miliwn yr UE—arian i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, i gonffederasiwn y gwasanaeth iechyd, i Gymdeithas Cyfarwyddwyr y Gwasanaethau Cymdeithasol ac i Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Mae pob un o'r sefydliadau ymbarél hyn wedi cael cymorth cymhedrol—a chymedrol yn unig ydyw—cymorth o'r Gronfa er mwyn iddyn nhw ddatblygu sianelau cyfathrebu gwell am y pethau yr ydym yn gallu eu dweud yn uniongyrchol wrth y sefydliadau hynny. Ond wedyn rydym yn dibynnu ar iddyn nhw allu trosglwyddo'r negeseuon hynny ymlaen i'w haelodaeth, ac rydym wedi gwneud ein gorau i ddarparu rhywfaint o gymorth ariannol iddyn nhw i wneud hynny.
Terfynodd Paul Davies ei gwestiynau gyda phwynt pwysig iawn am y straen pellach ar y berthynas gyfansoddiadol o fewn y Deyrnas Unedig y byddai Brexit heb gytundeb yn ei achosi. Onid dyna'r farn gyffredin? Dyna gasgliad ein pwyllgorau yn y fan yma, a dyna gasgliad pwyllgorau Tŷ'r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi, na fedr y prosesau rhynglywodraethol presennol sydd gennym yn y Deyrnas Unedig gynnal pwysau Brexit—ein bod wedi dibynnu ar lyfr rheolau cyffredin ers datganoli, llyfr rheolau cyffredin yr Undeb Ewropeaidd, yr ydym i gyd wedi ymrwymo iddynt. Pan fydd y llyfr rheolau hwnnw yn diflannu, yna ni fydd y mecanwaith fydd ar ôl yn ddigonol ar gyfer y dasg. Ac rydym yn pwysleisio'r pwynt hwnnw, ac mewn sawl ffordd, bu Cymru yn brif ffynhonnell y penderfyniad i ddatrys y problemau hynny, ac mae Cydbwyllgor y Gweinidogion yn ei gyfarfod llawn, pan oedd fy rhagflaenydd, Carwyn Jones yn aelod ohono, wedi rhoi gwaith ar y gweill i wneud yn union hynny. Ond mae'n fater o frys, ac mae'n anodd perswadio Llywodraeth y DU i ddod o hyd i'r egni, yr amser a'r ymrwymiad i wneud i'r pethau pwysig iawn hyn ddigwydd.
Bydd y llwyth gwaith a fydd yn deillio o Brexit yn cael ei deimlo yn y sefydliad hwn, Llywydd, ac edrychaf ymlaen at drafodaethau pellach rhwng y pleidiau a gyda chithau i wneud yn siŵr ein bod yn canfod y ffordd fwyaf ymarferol bosibl o reoli'r effaith ddeddfwriaethol y bydd Brexit heb gytundeb yn sicr o'i chreu ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol ei hun.