Part of the debate – Senedd Cymru am 4:50 pm ar 22 Ionawr 2019.
Diolch, Dirprwy Lywydd, am y cyfle hwn i siarad am effaith 'Brexit heb gytundeb' ar gludo nwyddau a phobl a'r gwaith sylweddol y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud ac yn ei gydgysylltu i ddeall a lliniaru'r perygl o amhariad.
Fel yr ydym wedi ei glywed sawl tro y prynhawn yma—ac nid wyf i'n ymddiheuro o gwbl am ei ailadrodd—rydym ni wedi gwrthwynebu'r posibilrwydd o ymadael heb gytundeb am yn hir iawn, ac rydym ni'n galw ar Brif Weinidog y DU i ddweud ei bod am ddiddymu'r posibilrwydd hwn. Gallai Brexit heb gytundeb amharu'n ddifrifol ar y rhwydwaith trafnidiaeth a'r gwasanaethau cysylltiedig yng Nghymru. Rwyf wedi amlinellu ein cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y rhwydwaith trafnidiaeth yn y Siambr hon lawer gwaith, ac nid wyf eisiau eu gweld yn cael eu difetha gan ymgecru o fewn y Blaid Geidwadol a Brexit 'heb gytundeb' yn digwydd oherwydd diffyg dewis arall. Rydym ni'n awyddus i osgoi Brexit 'heb gytundeb' a'r effeithiau negyddol a gaiff ar fusnesau yng Nghymru ac yn rhyngwladol, sy'n cyfrannu cymaint at ein heconomi ac ansawdd bywyd pawb sy'n byw yn ein gwlad.
Dirprwy Lywydd, mynegwyd cryn ddiddordeb a phryder yn y Siambr hon, mewn sesiynau pwyllgor ac yn fwy eang yn y cyfryngau am oblygiadau Brexit 'heb gytundeb' i'n porthladdoedd ni, a hynny'n gwbl briodol. Mae porthladdoedd yng Nghymru yn gwneud cyfraniad pwysig i'n heconomi, yn bennaf drwy gynnig swyddi a gwerth ychwanegol i gymunedau lleol. Mae unrhyw risg i'w gweithrediad effeithlon yn achosi risg sylweddol i Gymru benbaladr. Mae porthladdoedd cynwysyddion, fel Caerdydd, Port Talbot a Chasnewydd, eisoes yn ymwneud â symud nwyddau rhyngwladol ac yn llai tebygol o weld amhariad sylweddol. O ran ein porthladdoedd llongau fferi, fodd bynnag, stori wahanol iawn fydd hi, ac maen nhw'n arbennig o agored i'r ergydion a allai daro yn dilyn Brexit heb gytundeb.
Mae'r rhan fwyaf o'r risgiau yn ymwneud â threfniadau trawsffiniol, tollau a gwiriadau diogelwch. Llywodraeth y DU, wrth gwrs, ddylai ddatrys y risgiau hyn. Mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu peidio â gwneud gwiriadau ychwanegol ar nwyddau o wledydd yr UE mewn sefyllfa Brexit heb gytundeb, er bod hynny ar sail dros dro. Gallai hyn leddfu rhywfaint o'r pwysau byrdymor, ond mae angen ateb mwy cadarn, hirdymor arnom ni. Gallai'r gofyniad gan yr UE i Iwerddon drin nwyddau o'r DU fel pe byddent o drydedd wlad, gan gynnwys yr holl wiriadau gofynnol, achosi oedi canlyniadol ar borthladdoedd llongau fferi. Ar gyfer Doc Penfro ac Abergwaun, mae ein dadansoddiad yn awgrymu y gellid rheoli cerbydau sy'n cael eu dal yn ôl o fewn y porthladd ei hun. Rydym yn cadw hyn, wrth gwrs, o dan adolygiad parhaus, rhag ofn y bydd angen mesurau wrth gefn ychwanegol eto. Byddai Caergybi yn ei chael hi'n fwy anodd i ymdrin ag effeithiau'r oedi. Rydym ni'n gweithio ar ddatrysiadau i reoli'r dal yn ôl ar draffig oherwydd oedi yn y porthladd, ac rwy'n gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau hyn i Aelodau heddiw.
Paratowyd asesiad gan Lywodraeth y DU o'r sefyllfa waethaf bosibl resymol ar gyfer cerbydau nwyddau trwm yn cael eu dal yn ôl, ac mae hyn yn berthnasol i'r holl borthladdoedd fferi ledled y DU. Mae'r asesiad hwn yn seiliedig ar nifer o ragdybiaethau traws- lywodraethol ac ar draws adrannau, megis yr archwiliadau y gellid eu gorfodi a pha seilwaith y gellid ei roi ar waith. Mae'r modelu yn dangos ei bod yn debygol y gellid cynnwys y traffig sy'n cael ei ddal yn ôl yng Nghaergybi o fewn terfynau'r porthladd ac y byddai unrhyw orlif yn annhebygol ar yr A55. Er hynny, seilir y modelu ar ystod o ragdybiaethau cyffredin y mae cryn ansicrwydd yn parhau yn eu cylch, ac sy'n cael eu hadolygu'n barhaus. Felly, rydym ni wedi datblygu cynlluniau wrth gefn yn rhan o grŵp ymgynghori strategol porthladd Caergybi, a sefydlwyd y llynedd.
Cafodd safleoedd posibl ar Ynys Môn eu nodi a'u hasesu, gan gynnwys y cyfleuster aros ar gyfer tryciau Roadking sydd yno'n barod. Mae fy swyddogion i wedi cwrdd â Roadking i drafod y defnydd o'r safle penodol hwn. Mae'n safle da yn ddaearyddol, ni cheir unrhyw faterion datblygiadol ac mae seilwaith addas eisoes ar gael. Byddwn yn trafod telerau gyda Roadking nawr, ond nid dyma'r unig ddewis sydd ar gael i ni. Dewis arall yw Parc Cybi. Safle sy'n cael ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru yw hwn, ac mae'n ddigon mawr i ddal 40 o gerbydau nwyddau trwm. A cheir dewis wrth gefn arall hefyd: gellid defnyddio'r A55. Ledled Ynys Môn, mae gwaith yn cael ei wneud ar y ffordd yn ystod y dydd gyda lonydd yn cael eu cau heb achosi fawr ddim anhwylustod. Gellid defnyddio mesurau tebyg, yn y sefyllfa annhebygol eu bod nhw'n angenrheidiol, er mwyn rheoli'r oedi o ran cludiant nwyddau yn y porthladd. Mae Brexit heb gytundeb yn achosi risgiau mwy cyffredinol i gludiant nwyddau hefyd, gan y gallai syrthio'n ôl ar y system drwyddedu rhyngwladol osod cyfyngiadau difrifol ar weithredwyr sy'n symud nwyddau ar draws y ffin rhwng y DU a'r UE.