Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru

Part of QNR – Senedd Cymru ar 22 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour

Yn amlwg, mae Llywodraeth Cymru yn siomedig nad yw datblygiad Wylfa Newydd yn symud ymlaen. Cyhoeddodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ddatganiad ysgrifenedig ar 17 Ionawr yn amlinellu safbwynt Llywodraeth Cymru, ac, ers hynny, mae wedi cynnal trafodaethau gyda Gweinidogion y Deyrnas Unedig, cynrychiolwyr y cwmni, yr Aelod Seneddol lleol ac eraill.