Ailgoedwigo

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 23 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 1:33, 23 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol o'r ohebiaeth a gawsoch gyda fy nghyd-Aelod Elin Jones ynglŷn â phryderon y trigolion o gwmpas Ystâd yr Hafod ger Aberystwyth mewn perthynas â natur y gwaith o gwympo’r coed. Fe fyddwch yn cofio Elin Jones yn codi pryderon gyda chi ynglŷn â’r defnydd o blaladdwyr a phryderon pobl ynghylch y posibilrwydd y gallai hynny effeithio ar fywyd gwyllt arall a'r lefel trwythiad, gan fod llawer o'r cartrefi yn yr ardal honno yn cael eu dŵr o ffynhonnau yn hytrach nag o'r prif gyflenwadau. Roeddech yn ddigon caredig i ymateb i Elin, a hoffwn eich gwahodd heddiw i gofnodi eich sicrwydd i'r gymuned honno, ac i unrhyw un arall a allai fod yn bryderus ledled Cymru ynglŷn â natur y gwaith rheoli, nad oes unrhyw reswm i ofni, naill ai o ran iechyd dynol yn sgil halogi’r lefel trwythiad, neu o ran unrhyw beryglon i fywyd gwyllt.