Ceisiadau Datblygu Preswyl

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 23 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 2:51, 23 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb, Weinidog, ac a gaf fi hefyd groesawu'r newid ym mholisi'r Llywodraeth tuag at ddull mwy gofodol o gynllunio? Ond yn fy etholaeth i, yn Llanilltud Faerdref, mae gennym dri chais cynllunio preswyl sylweddol o fewn radiws o 700m. Mae pob un ar wahanol gamau yn y broses gynllunio, ac nid wyf yn gofyn ichi wneud sylwadau arnynt—y rhai yn Ystrad Barwig, fferm Cwm Isaf a chomin Tynant—ond yr hyn a wyddom yw bod y seilwaith priffyrdd o dan bwysau sylweddol, a dywed meddygon teulu lleol wrthyf eu bod yn ei chael hi'n anodd cynnal gwasanaeth da i gleifion cyfredol. Mae angen tai ar bobl, ond a ydych yn cytuno â mi fod yn rhaid i'r broses gynllunio roi mwy o bwyslais ar effaith gronnol datblygiadau cyfagos ar les pobl a mynediad at wasanaethau allweddol?