Cynyddu'r Amrywiaeth o Gynghorwyr Lleol

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 23 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 3:02, 23 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Mae pobl ag anableddau yn debygol o wynebu mwy o gostau wrth iddynt geisio am swyddi etholedig oherwydd eu hanableddau. Y mis diwethaf, lansiodd Llywodraeth y DU gronfa dros dro i helpu gyda'r costau sy'n gysylltiedig ag anabledd er mwyn annog a chynorthwyo pobl i sefyll mewn etholiadau. Bydd y gronfa EnAble ar gyfer swyddi etholedig yn rhedeg tan 2020 a bydd yn darparu ar gyfer ymgeiswyr mewn etholiadau lleol ac etholiadau comisiynwyr yr heddlu yn Lloegr. Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i gyflwyno cynllun tebyg yng Nghymru er mwyn galluogi rhagor o bobl ag anableddau i sefyll etholiadau ar gyfer cynrychioli eu cymunedau yng Nghymru, os gwelwch yn dda?