Part of the debate – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 23 Ionawr 2019.
Diolch, Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig i geisio cytundeb y Cynulliad i ganiatáu i mi gyflwyno Bil Aelod ar hawliau pobl hŷn.
Fel cenedl, gallwn fod yn falch iawn fod llawer ohonom yn byw'n hwy ac yn iachach yn ein henaint nag erioed o'r blaen. A gallwn fod yn falch o'r hanes rhagorol sydd gennym yn cefnogi ein pobl hŷn yma yng Nghymru. Ni oedd y genedl gyntaf yn y byd i benodi comisiynydd pobl hŷn, y wlad gyntaf yn y DU i ymgorffori confensiynau'r Cenhedloedd Unedig ar hawliau'r plentyn a phobl hŷn mewn cyfraith ddomestig, a'r gyntaf i sefydlu dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Heddiw, mae cyfle gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, unwaith eto, i arwain y ffordd drwy gefnogi cynigion ar gyfer Bil hawliau pobl hŷn.
Ni sydd â'r gyfran uchaf o bobl hŷn yn y DU—mae un o bob pedwar o'r bobl sy'n byw yma yng Nghymru dros 60 oed—a bydd y cynnydd demograffig hwnnw'n parhau. Erbyn 2030, amcangyfrifa Cynghrair Henoed Cymru y bydd nifer y bobl hŷn dros 65 oed sy'n byw yng Nghymru yn gweld cynnydd o fwy na thraean. Ac o ran y bobl dros 85 oed, mae eu nifer yn mynd i gynyddu 80 y cant, sy'n syfrdanol. Nawr, mae rhai wedi cwyno bod cynnydd o'r fath yn nifer y bobl hŷn yn rhoi baich ar gymdeithas, ac eto nid yw'r bobl hyn byth yn sôn am y cyfraniad aruthrol y mae pobl hŷn yn ei wneud i'n gwlad. Mae'r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol yn amcangyfrif bod pobl dros 65 oed yn cyfrannu dros £1 biliwn bob blwyddyn i economi Cymru, ac mae hwnnw'n swm net o'r costau pensiwn, iechyd a gofal cymdeithasol. Mae Cynghrair Henoed Cymru wedi awgrymu bod gwerth y gofal plant a ddarperir gan neiniau a theidiau yng Nghymru dros £0.25 biliwn y flwyddyn, ac amcangyfrifir bod gwerth eu gwaith gwirfoddol fymryn yn is na £0.5 biliwn. Eto, er gwaethaf y cyfraniad enfawr hwn, mae'n wir dweud y gall rhai o'n pobl hŷn fod angen cymorth neu gefnogaeth ychwanegol, o'i gymharu â gweddill y boblogaeth.
Mae llawer ohonynt yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus yn aml; gallant fod yn fwy dibynnol ar ofal eraill a gallant fod—ac maent, yn aml—yn destun gwahaniaethu ar sail oedran. Gall pobl hŷn gael eu heffeithio'n anghymesur yn sgil cau cyfleusterau megis toiledau cyhoeddus, banciau, llyfrgelloedd, swyddfeydd post, ysbytai neu ddiddymu trafnidiaeth gyhoeddus megis gwasanaethau bysiau. Ac ar adeg pan fo mwy a mwy o wasanaethau allweddol ond ar gael ar-lein yn unig, rhaid inni gofio nad yw dros hanner yr oedolion sydd dros 75 oed erioed wedi defnyddio'r rhyngrwyd. Gall hyn oll wneud pobl hŷn fwy agored i niwed ac yn fwy tebygol o golli eu hannibyniaeth, ac felly maent yn wynebu mwy o risg y caiff eu hawliau eu tramgwyddo.
Mae llawer o bobl hŷn yn ofalwyr ac o'i gymharu â gweddill y DU, mae gan Gymru nifer uwch o ofalwyr hŷn sy'n aml yn llai iach eu hunain. Mae byw gyda salwch neu anabledd hirdymor yn heriol ar y gorau, ond yn fwy felly pan fo gennych gyfrifoldeb gofalu. Ond mae llawer o bobl hŷn heb neb gerllaw i'w cefnogi. Mae unigrwydd ac arwahanrwydd yn realiti dyddiol i lawer o bobl hŷn, ac mae'n drasig fod tua 75,000 o bobl hŷn yng Nghymru wedi dweud, yn ôl Age Cymru—ac rwy'n dyfynnu—eu bod 'bob amser neu'n aml yn teimlo'n unig'. Mae pobl unig yn fwy tebygol o ddioddef iechyd gwael, o fod yn agored i niwed, ac o gael eu hawliau wedi'u tramgwyddo.
Mae ymchwil wedi dangos hefyd mai yng Nghymru y ceir y gyfradd uchaf o achosion o gam-drin yr henoed yn y DU. Gwelodd Action on Elder Abuse fod 12.5 y cant o bobl dros 65 oed yng Nghymru wedi dioddef cam-drin, sef bron i 100,000 o bobl y flwyddyn, ond nid yw'r system bresennol yn nodi achosion o gam-drin yn ddigonol, ac yn aml nid yw dioddefwyr yn teimlo eu bod wedi'u grymuso ddigon i allu dweud wrth bobl, ac efallai mai dyna pam fod llai nag 1 y cant o achosion yn arwain at euogfarn droseddol lwyddiannus.
Ac yna mae gennym broblem gwahaniaethu ar sail oedran. Mae'n fater nad ydym yn siarad fawr ddim amdano, ond gall ei effaith ar bobl hŷn fod yr un mor ddinistriol â hiliaeth, rhywiaeth neu homoffobia. Mae stereoteipiau negyddol o bobl hŷn yn dal i fod yn gyffredin, fel y mae iaith ddifrïol ac amharchus a ddefnyddir yn aml i ddisgrifio pobl pan fyddant yn cyrraedd oedran penodol.
Dyma'r rhesymau pam rwy'n ceisio caniatâd gan y Cynulliad heddiw i gyflwyno Bil hawliau pobl hŷn. Diben y Bil yw adeiladu ar hanes ardderchog Cymru hyd yn hyn drwy ymgorffori ymagwedd seiliedig ar hawliau yn y broses o ddatblygu, cynllunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus sy'n effeithio ar bobl hŷn yng Nghymru. Os caf ganiatâd, byddaf yn ceisio ymgynghori â rhanddeiliaid i ddatblygu Bil a fydd yn ymgorffori hawliau pobl hŷn ymhellach yng nghyfraith Cymru, drwy osod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw i Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn wrth wneud penderfyniadau a allai effeithio ar bobl hŷn yng Nghymru; a fydd yn darparu ar gyfer y gallu i ymestyn y ddyletswydd sylw dyledus honno i awdurdodau lleol, byrddau iechyd ac awdurdodau cyhoeddus eraill Cymru; a fydd yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn; ac a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiadau blynyddol ar eu cydymffurfiaeth â'u cynlluniau hawliau pobl hŷn—rhywbeth nad yw'n digwydd ar hyn o bryd.
Nawr, efallai fod yr ymagwedd hon yn swnio'n gyfarwydd i rai pobl yn y Siambr, a'r rheswm am hynny yw fod y dyletswyddau'n debyg iawn i'r rhai a osodwyd yn y Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Wrth gwrs, cafodd y ddeddfwriaeth honno dderbyniad da iawn gan randdeiliaid, ac mae wedi cael effaith gadarnhaol ar brofiadau plant ac o ran codi ymwybyddiaeth o hawliau plant ar draws y wlad. Nawr, rwy'n hyderus iawn y gallwn sicrhau canlyniadau tebyg drwy ddeddfwriaeth ar hawliau pobl hŷn.
Awgrymais Fil o'r math hwn yn ystod dadl fer yn ôl ym mis Ionawr 2012, ac ers hynny mae llawer iawn wedi digwydd. Yn ddiweddarach y flwyddyn honno, sefydlwyd grŵp cynghori gan y Prif Weinidog—y Prif Weinidog ar y pryd—i ymchwilio i'r gwaith o ddatblygu datganiad o hawliau pobl hŷn yng Nghymru. Ac yna, yn 2014, o'r diwedd, ymgorfforodd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn yng nghyfraith Cymru am y tro cyntaf. Yna cawsom y datganiad o hawliau pobl hŷn yng Nghymru, a gyhoeddwyd yn y pen draw yn 2014. Yn y flwyddyn ganlynol, 2015, galwodd y comisiynydd pobl hŷn ar y pryd, Sarah Rochira, am amddiffyn hawliau pobl hŷn yn well, ac aeth ymlaen, ym mis Ionawr 2016, i gyhoeddi 'Rhoi Hawliau ar Waith mewn Gwasanaethau Cyhoeddus', a roddodd arweiniad i arweinwyr yn y sector cyhoeddus ar sut y gallent ymgorffori hawliau dynol pobl hŷn yn eu gwasanaethau cyhoeddus. Nawr, mae'r holl gynnydd hwn, wrth gwrs, i'w groesawu'n gynnes iawn. Ym mis Ionawr 2016 yn ogystal, pleidleisiodd y Cynulliad Cenedlaethol hwn dros gynnig wedi'i ddiwygio a alwai ar Lywodraeth Cymru, ac rwy'n dyfynnu,
'i weithio gyda'r Comisiynydd Pobl Hŷn i gyflwyno deddfwriaeth i amddiffyn a hyrwyddo hawliau pobl hŷn.'
A'r Gweinidog iechyd ar y pryd—y Prif Weinidog erbyn hyn—a dderbyniodd y cynnig hwnnw fel y'i diwygiwyd, a phleidleisiodd pob plaid wleidyddol yn y Senedd o'i blaid. Rwy'n gresynnu, fodd bynnag, na chafodd canlyniad y bleidlais honno byth mo'i chyflawni'n llawn, a bod y cynnydd a wnaed gennym wedi arafu. [Torri ar draws.] Rwy'n hapus i dderbyn ymyriad.