Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 23 Ionawr 2019.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o wneud y cynnig hwn heddiw a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig. I ddyfynnu'r Seneddwr Bobby Kennedy yn 1966:
Hoffi'r peth neu beidio, rydym yn byw mewn cyfnod diddorol.
Wel, hoffi'r peth neu beidio, rydym eto heddiw'n byw mewn cyfnod diddorol, ac mae trethi datganoledig gyda ni, pa un a ydych yn hoffi hynny ai peidio. Fel y gwyddom, o Ebrill 2019, bydd gan y sefydliad hwn bŵer i amrywio cyfraddau treth incwm, sy'n arf pwerus yn ogystal â threthi Cymreig newydd eraill—y dreth trafodiadau tir a'r dreth gwarediadau tirlenwi. Mae hyn yn ychwanegol at bwerau sydd eisoes yn bodoli i godi ac i bennu ardrethi busnes. Gyda'i gilydd, mae Llywodraeth Cymru yn mynd i gael oddeutu £5 biliwn mewn refeniw treth o fis Ebrill ymlaen.
Felly, sut y mae gwneud i hyn weithio yn y ffordd orau er budd bobl Cymru? Yn bwysicach, sut y gallwn ddefnyddio'r ysgogiadau treth newydd hyn i gynhyrchu twf yn ein heconomi? Wrth gwrs, mae'r rhain yn gwestiynau na fu angen inni eu gofyn yng Nghymru hyd yma. Maent yn gwestiynau mawr ynglŷn â sut y rheolwn arian cyhoeddus, sut yr awn â'r bobl gyda ni ar y daith hon, sut y datblygwn berthynas well rhwng y Llywodraeth a'r bobl, perthynas sy'n briodol ar gyfer yr oes fodern, perthynas sy'n briodol ar gyfer oes newydd o atebolrwydd i'r Cynulliad hwn.
Bu'n fraint cael bod ar Bwyllgor Cyllid y Cynulliad dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf wrth i'r materion hyn gael eu trafod yn fanwl. Daeth llawer o syniadau da gan Aelodau o bob plaid. Dyna sut y dylai fod. Nid yw datganoli trethi'n fater sy'n perthyn i un blaid, un grŵp yn unig, mae'n perthyn i bob un ohonom. Ein cyfrifoldeb ni yw cael hyn yn iawn, yn y meysydd lle y mae trethi eisoes wedi'u datganoli ac ym maes treth incwm yn ogystal, er mwyn i'r pwerau newydd allu llwyddo, ac fel y dywedwn mor aml yn y Pwyllgor Cyllid, nid yn unig er mwyn iddo lwyddo ond er mwyn gwneud Cymru'n batrwm o arferion gorau.
Sut y gallwn ddenu rhai sy'n creu swyddi, buddsoddwyr ac entrepreneuriaid i Gymru i sefydlu busnesau newydd, creu swyddi newydd a chyfoethogi ein heconomi? Gall trethi ein helpu i wneud hyn oll, ond rhaid defnyddio'r pwerau newydd hyn yn y ffordd iawn er mwyn denu cefnogaeth a meithrin buddsoddiad, yn hytrach na mygu uchelgais a dyhead. Dengys tystiolaeth fod economïau trethiant isel yn fwy ffafriol i fusnesau newydd, gallant ddenu'r rhai sy'n creu swyddi, a gallant gynyddu refeniw mewn gwirionedd am eich bod yn annog mwy o weithgarwch economaidd.
Yn y pen draw, golyga hyn fod gennym fwy o arian i'w fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus o'r radd flaenaf. Gadewch inni fod yn onest, mae angen buddsoddi ar ein gwasanaethau cyhoeddus, ni allwn ganiatáu i Gymru lusgo ar ôl rhannau eraill o'r DU o ran faint o arian sydd gennym i'w wario ar ei fuddsoddi mewn ysgolion ac ysbytai. Felly, rwyf eisiau i economi Cymru fod yn fwy cystadleuol. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig eisiau i'r economi fod yn fwy cystadleuol. Credaf y byddai pob plaid a gynrychiolir yn y Siambr hon yn dymuno gweld hynny'n digwydd. Mae angen inni annog pobl i ddod yma i sefydlu busnesau newydd a chreu'r swyddi medrus newydd sydd eu hangen arnom.
Yr Athro Gerry Holtham oedd un o'r academyddion cyntaf i ystyried y manteision y gallai trethi datganoledig eu creu i Gymru. Tynnodd sylw at y ffaith mai ychydig iawn o effaith a gâi gwneud mân addasiadau i gyfradd sylfaenol y dreth incwm ar y sylfaen drethu, ar wahân i beidio â chodi symiau enfawr o arian, am fod y rhai sy'n talu treth incwm ar y gyfradd sylfaenol yn tueddu i fod yn llai symudol na threthdalwyr ar y gyfradd uwch. Yn wir, daeth i'r casgliad mai'r newid mwyaf cynhyrchiol i drethiant fyddai gostyngiad o 10c yn y bunt i'r cyfraddau uwch gan y gallai arwain at ddenu trethdalwyr ar y gyfradd uwch o'r ochr arall i'r ffin, yn ogystal ag annog entrepreneuriaeth a dyhead yng Nghymru.
Un peth sy'n glir yw bod angen inni dyfu sylfaen drethu Cymru'n sylfaenol a gwella ei strwythur. Ar hyn o bryd, dwy ran o dair yn unig o'r gyfran o drethdalwyr ar y gyfradd uwch sydd gennym yng Nghymru o gymharu â Lloegr, a chwarter yn unig o'r gyfran o drethdalwyr ar y gyfradd ychwanegol.