Part of the debate – Senedd Cymru am 4:39 pm ar 23 Ionawr 2019.
Rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwyntiau a wnaethoch yn y fan honno, Mike. Yn gyntaf, ar Steffan Lewis, roedd yn aelod gwerthfawr o'r Pwyllgor Cyllid ers iddo ddod yn aelod ohono yn 2016. Gwn ein bod i gyd yn teimlo, nid yn unig y tristwch o'i golli yn y Siambr hon, ond hefyd y tristwch o golli'r ysbryd a gyfrannodd yn y pwyllgor. Roedd ganddo bob amser safbwynt gwahanol, ac mewn materion fel datganoli trethiant, pan ddatganolir treth incwm fe welwn golli ei lais wrth ddadansoddi'r ddadl honno, ac mae hynny'n drasig, ac mae ein meddyliau gyda'i deulu ar yr adeg hon.
Yn ail, rydych yn gywir: os edrychwch ar dde-ddwyrain Lloegr ar wahân i Loegr, ydy, mae'n ystumio'r sylfaen drethu ar draws y DU gyfan. Roedd gwahaniaeth rhwng Cymru a rhannau eraill o'r DU yn ogystal, felly dyna oedd y pwynt y ceisiwn ei wneud, ond rydych yn gywir, nid yw mor fawr os nad ydych yn cynnwys de-ddwyrain Lloegr, ac nid ydym yn mynd i gael economi fel de-ddwyrain Lloegr—ni fyddem ei heisiau, chwaith—nid yn y blynyddoedd nesaf yn sicr. Dau bwynt dilys.
Felly, mae'n bwysig ein bod yn cadw trethdalwyr a'n bod yn tyfu'r sylfaen drethu. Mae'r sefyllfa bresennol yn anghynaliadwy, ac nid wyf yn dweud 'anghynaliadwy' yn y ffordd y byddem fel arfer yn ei ddefnyddio yn y dadleuon hyn, oherwydd yn amlwg bydd yr hyn a dderbynnir mewn trethi yno, ond os ydym am gael derbyniadau treth sy'n bodloni ein dyheadau, sy'n cyd-fynd â'n huchelgeisiau, credaf y byddem oll yn cytuno fod angen inni ei gynyddu, ac mae hynny'n golygu cael cyfraddau treth cystadleuol.
Os ydym am fod yn wlad fwy ffyniannus, mae angen system dreth sy'n annog twf cyflogau. Nid wyf yn ymddiheuro am fod eisiau i bobl yng Nghymru ennill mwy, oherwydd os yw pobl yn ennill mwy, mae'r derbyniad treth yn fwy a cheir mwy o arian ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus.
Nawr, clywsom lawer o sôn heddiw am godi treth incwm. Ymddengys mai dyna lle y canolbwyntiodd y rhan fwyaf o'r drafodaeth. Ond ni chlywsom lawer am amrywio cyfraddau treth mwyach, cyfraddau treth incwm, na gostwng cyfraddau treth yn wir. Credaf fod angen inni glywed ychydig mwy am fanteision hynny gan Lywodraeth Cymru, ynglŷn â sut y gallwn gynhyrchu mwy o refeniw drwy gynnig cyfraddau treth deniadol fel bod pobl yn dymuno dod i fyw yng Nghymru, a bod y bobl yma sy'n awyddus i fuddsoddi yn ein heconomi ag arian i wneud hynny.
Er fy mod yn cydnabod bod cyfraddau treth incwm yn aros yn sefydlog eleni, ac mae hynny i'w groesawu, cafwyd cwestiynau ynglŷn ag ymrwymiad y Llywodraeth i hyn, er gwaethaf addewid yn 2016 i beidio â chodi treth incwm tan 2021 ar y cynharaf. Mae'r hen ddadleuon ynglŷn â chodi trethi i gynyddu refeniw i'w wario yn rhy syml ac wedi dyddio wrth gwrs. Mae unrhyw beth sy'n mygu entrepreneuriaeth yn niweidio'r economi yn y pen draw ac yn lleihau derbyniadau treth.
Mae gennym ffin hir a thyllog iawn â Lloegr, ac os oes gan Gymru gyfradd uwch o dreth incwm, dros amser byddech yn gweld cynnydd yn y bobl sy'n symud ar draws y ffin, oddi yma, gan fynd â busnesau, swyddi a photensial economaidd i Loegr, a byddai'r dreth yn mynd i Drysorlys y DU, nid i Drysorlys Cymru. Cyn i Mike Hedges ymyrryd, os yw'n meddwl gwneud hynny, rwy'n sylweddoli nad yw mor syml â dweud y byddai hynny'n digwydd dros nos, ond dyna fyddai'r perygl dros y tymor canolig, sefyllfa hirdymor. Nid oes neb ohonom am i hynny ddigwydd.
Pan gynyddodd yr Alban gyfraddau treth yn 2017 ar gyfer y cyfraddau uwch ac ychwanegol o geiniog yn y bunt, gwelwyd miloedd o drethdalwyr y gyfradd uwch ac ychwanegol yn gadael. Cafwyd twll du yng nghyllid y wlad. Mae angen inni osgoi hynny yma, ac rwy'n sylweddoli nad yr Alban yw Cymru—rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn gwneud y pwynt hwnnw. Yn aml, rydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn dweud nad Cymru yw Lloegr, felly buaswn yn derbyn y sail dros y pwynt hwnnw. Ond serch hynny, mae'r Alban wedi mynd beth o'r ffordd i lawr y llwybr hwn. Maent ar y blaen inni o rai blynyddoedd o safbwynt datganoli treth incwm, felly mae gwersi gwerthfawr y gellir eu dysgu ac y dylid eu dysgu.
Wrth gwrs, mae datganoli treth incwm yn ffitio i dirlun ehangach datganoli trethi a mwy o atebolrwydd. Mae'r dreth trafodiadau tir a'r dreth gwarediadau tirlenwi eisoes gyda ni, ac wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru yn ystyried trethi newydd. Gwyddom fod treth ar dir gwag ar y gweill i roi prawf ar y system; cafodd treth twristiaeth ei gwrthod, ond mae'r drws yn dal ar agor i awdurdodau lleol wneud hynny; treth gofal cymdeithasol, cawsom rywfaint o drafodaeth ynglŷn â hynny. Felly, mae pob math o drethi ar y ffordd, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig inni edrych ar fanteision trethiant isel yn ogystal â threthi newydd megis treth gofal cymdeithasol, a gallai fod rhai manteision i hynny yn y tymor hwy.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n edrych ymlaen at glywed yr hyn sydd gan bob Aelod i'w gyfrannu i'r ddadl hon heddiw. Rydym wedi edrych ar y gwelliannau, felly, gan droi'n fyr at y ddau welliant, byddwn yn cefnogi gwelliant 1 am ein bod yn teimlo ei fod yn gwella'r cynnig. Byddwn yn gwrthwynebu gwelliant 2 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth, er y buaswn yn sicr yn cefnogi dadl aeddfed ar y materion sy'n codi. Ond rydym yn teimlo, ar hyn o bryd, fod y gwelliant yn glastwreiddio ein cynnig gwreiddiol, sy'n sôn am fanteision economi treth isel. Felly, er ein bod yn cefnogi ysbryd y gwelliant hwnnw, ni fyddwn yn ei gefnogi ar ddiwedd y ddadl hon.
Felly, gadewch inni gael dadl aeddfed ynglyn â sut y gallwn ddefnyddio ysgogiadau treth i wneud economi Cymru yn fwy deinamig a ffyniannus, a gadewch inni gael gwared ar unrhyw ddryswch ynghylch cynlluniau treth Llywodraeth Cymru am weddill y tymor Cynulliad hwn. Edrychaf ymlaen at glywed beth sydd gan y Gweinidog i'w ddweud o ran cadw at yr ymrwymiad hwnnw i beidio â chodi cyfraddau treth, cyfradd treth incwm Cymru, hyd nes 2021, a chadw economi dreth isel a chystadleuol y tu hwnt i hynny, gobeithio.