Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 29 Ionawr 2019.
Diolchaf i David Melding am hynna. Rwyf, wrth gwrs, yn croesawu adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru. Yr adroddiad hwnnw wnaeth bwysleisio'r ffaith y bu gostyngiad o £30 miliwn i gost staff gwaith asiantaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn y GIG. Ac roedd yn ystyriaeth gytbwys o'r cyflawniadau a wnaed yng Nghymru, ond hefyd yn cyfeirio at ffyrdd newydd y gallwn ni fynd i'r afael â phrinder sgiliau a chostau yn y dyfodol. Yn yr ail gam, yr wyf i wedi cyfeirio ato eisoes, bydd datblygiadau pellach o ran casglu data, i ddarparu data cenedlaethol safonedig, i alluogi meincnodi a monitro gwelliant o ran gwariant, mewn ymateb uniongyrchol i rywfaint o'r gwaith a grynhowyd gan yr Archwilydd Cyffredinol yn ei adroddiad.