Trafnidiaeth yn 2019

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 29 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:18, 29 Ionawr 2019

Mi fydd y Prif Weinidog yn gwybod fy mod i'n gefnogol iawn i ddeuoli croesiad Britannia rhwng y tir mawr ac Ynys Môn, ac yn ddiolchgar i'r gefnogaeth mae Llywodraeth Cymru wedi'i dangos tuag at y cynllun hwnnw. Ydy'r Prif Weinidog yn cytuno â fi bod y cyhoeddiad diweddar ynglŷn ag oedi prosiect Wylfa Newydd yn cryfhau, nid gwanhau, y ddadl dros wneud y croesiad hwnnw oherwydd mae gwytnwch, resilience, y croesiad yna'n hanfodol ar gyfer hybu datblygiad economaidd yn Ynys Môn yn ogystal â bod yn bwysig ar gyfer diogelwch y croesiad yna rhwng yr ynys a'r tir mawr yn gyffredinol?