Part of the debate – Senedd Cymru am 3:25 pm ar 29 Ionawr 2019.
Mae ysgolion yn gweiddi allan am wybodaeth goncrit ynglŷn â pryd fydd hyn yn digwydd—hynny yw, pryd fydd yr ailhyfforddi mawr yma'n digwydd? Fydd o'n digwydd yn ystod oriau ysgol, tu hwnt i oriau ysgol, mewn diwrnodau hyfforddiant mewn swydd ychwanegol, neu beth? Mae angen syniad ynghylch y buddsoddiad ariannol fydd yn cael ei neilltuo i hyn—mwy o fanylion, os liciwch chi. Dŷch chi wedi clustnodi £100,000, dwi'n credu, ar gyfer datblygiad parhaus, ond ydy hynny yn ddigon? Mae rhyddhau athrawon yn gostus. Mae angen i'r cwbl fod wedi ei gynllunio yn ofalus ymlaen llaw. Mae angen cydnabyddiaeth o faint y dasg, ac mae angen pwysleisio bod hyn yn cynnwys athrawon dosbarth, cynorthwywyr dosbarth ac arweinwyr ysgol fel ei gilydd. Dwi yn ymwybodol na fydd hyfforddiant datblygiad proffesiynol yn rhan o'r Papur Gwyn, ond mae'r cwestiynau dwi'n meddwl sydd yn cael eu codi gan yr athrawon a gan yr undebau yn hollol berthnasol.
Mae fy ail gwestiwn i ynghylch trefniadau asesu, a dŷch chi wedi sôn y byddwch chi'n cyhoeddi mwy o fanylion ynglŷn â hynny yn y gwanwyn. Ar hyn o bryd, cyn cael y wybodaeth yna, mae athrawon yn pryderu nad ydyn nhw yn gallu cael syniad clir o natur a dull y trefniadau asesu fydd yn cydfynd â'r cwricwlwm. Dŷn ni'n gwybod am y profion ymaddasol blynyddol, a dŷn ni'n gwybod am newidiadau sylweddol a chadarnhaol yn dod o ran y trefniadau atebolrwydd ehangach, ond, o ran y camau cynnydd a'r deilliannau cyflawniad, mi fyddai'n dda cael mwy o eglurhad ynghylch hyn oll, a dwi'n cymryd mai'r bwriad fydd symud i ffwrdd o asesiadau athrawon fel maen nhw ar hyn o bryd.
Cwestiwn anferth arall lle nad oes yna unrhyw un fel petaen nhw'n fodlon mynd i'r afael ag o ar hyn o bryd ydy: beth fydd sgil-effaith y newidiadau i'r cwricwlwm ar gymwysterau, fel roedd Suzy yn sôn? Mi wnaethoch chi ddechrau ateb y cwestiwn, ond mae angen eglurder yn fuan iawn ar y mater yma. Roeddech chi'n sôn, 'O, mae 2026 yn bell i ffwrdd'. Wel, nac ydy, dydy 2026 ddim yn bell i ffwrdd, oherwydd mi fydd y garfan gyntaf o ddisgyblion sydd wedi dilyn y cwricwlwm newydd, sef y rhai fydd ym mlwyddyn 7 ym mis Medi 2022, yn cyrraedd blwyddyn 10, sef yn dechrau cyrsiau TGAU, ym mis Medi 2025. Gweithio nôl o'r pwynt yna, bydd angen i'r manylebau ar gyfer y cymwysterau hynny fod wedi eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024 er mwyn i athrawon gael amser i ymbaratoi. Mae yna waith aruthrol i'w wneud yn gyntaf gan Cymwysterau Cymru o ran gosod y meini prawf, ac wedyn gan Cydbwyllgor Addysg Cymru, ac unrhyw gyrff dyfarnu eraill fydd â diddordeb cynnig cymhwyster, o ran llunio'r cymhwyster, a mynd drwy brosesau dilysu Cymwysterau Cymru. Dwi'n gwybod eich bod chi, yn ddealladwy efallai, wedi eisiau osgoi bod natur a chynnwys cymwysterau yn dylanwadu'n ormodol ar y cwricwlwm, ond mae'r amser wedi dod i fynd â'r maen i'r wal a gwneud penderfyniadau cadarn.
Troi rŵan at fater sydd yn peri consern i mi hefyd, sef Cymreictod y cwricwlwm, ac fe hoffwn i wybod pa mor Gymreig fydd profiad y disgybl a faint o bwyslais fydd ar hanes Cymru. Dŷch chi'n sôn am ddimensiwn Cymreig; dwi'n sôn am gwricwlwm wedi ei wreiddio yn y profiad Cymreig, a dwi yn meddwl bod yna wahaniaeth yn fanna, a hoffwn i eglurder am hynny. Mae yna gwestiynau yn codi am y fframwaith ar gyfer y Gymraeg, a beth fydd y trefniadau asesu yn fan honno, a'r cwestiwn mawr sydd ddim yn cael ei ateb ar hyn o bryd ydy: beth fydd natur y cymhwyster neu gymwysterau o ran y Gymraeg? Mae diffyg eglurder ynglyn â hynny yn peri ychydig bach o ofid; mae yna wagle yn ei gylch o, ac mi fyddai'n dda cael dipyn bach mwy o gig ar yr asgwrn o safbwynt hwnnw.
Ac, yn olaf, dwi'n troi at yr hyn roedd Suzy wedi cychwyn sôn amdano fo—yr hyn sydd ar dudalen 35 yn yr adroddiad yn y ddogfen ymgynghori, ac yn fan hyn mae o'n dweud y bydd:
'Dyletswydd ar bob ysgol a Lleoliad Meithrin a Gyllidir i addysgu Saesneg, fel elfen orfodol o'r cwricwlwm newydd i Gymru.'
Rŵan mae hwnna yn taro rhywun fel rhywbeth chwithig iawn yn y dyddiau sydd ohoni, lle mae cylchoedd meithrin y Mudiad Ysgolion Meithrin yn cyflwyno eu gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg. Ac mae pob barn arbenigol yn pwysleisio bod trochi plant yn y Gymraeg yn yr oed cynnar yna—dyna ydy'r ffordd i gynhyrchu plant sydd yn rhugl yn y Gymraeg. Ac mae datganiad fel yna yn codi llawer iawn o gwestiynau, dwi'n meddwl, ac mae o wedi dychryn y Mudiad Ysgolion Meithrin yn sicr, ac mae'n ymddangos i mi yn mynd yn hollol groes i'r nod o filiwn o siaradwyr. Felly, hoffwn i wybod ai camgymeriad ydy o mewn gwirionedd. Mae o'n ddatganiad mor od ac annisgwyl yn y cyd-destun dŷn ni ynddo fo yng Nghymru ar hyn o bryd, mae'n fy nharo i efallai mai camgymeriad ydy o, beth bynnag.
Felly—