Part of the debate – Senedd Cymru am 3:16 pm ar 29 Ionawr 2019.
A gaf i ddiolch i Suzy Davies am y rhestr faith o gwestiynau? Byddaf yn ceisio ymdrin â nhw orau y gallaf ac mor gyflym ag y gallaf. Rwy'n falch fod yr Aelod yn cydnabod y ceir mwy o eglurder ynghylch dibenion y cwricwlwm. Wrth gwrs, canfyddiad gan Graham Donaldson oedd hwn yn ei adroddiad 'Dyfodol Llwyddiannus', a oedd yn mynegi bod angen i ni gael yr eglurder hwnnw, ac rwyf i o'r farn ein bod ni wedi cael hynny.
Yn ddealladwy, fel sy'n digwydd bob amser yn y trafodaethau hyn, tueddir i ganolbwyntio ar gymwysterau a'r hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd ar ddiwedd y broses. Yn amlwg, bydd angen i'r cymwysterau yng Nghymru gyd-fynd â'r cwricwlwm newydd. Un o'r pethau yr ydym wedi bod yn ofalus iawn yn eu gwneud yn ystod y broses gyfan yw ymgysylltu â Chymwysterau Cymru fel y ceir rhagolwg cynnar gan ein corff cymwysterau o'r hyn y bydd angen iddyn nhw ei wneud i sicrhau aliniad gwirioneddol. Dyna hefyd un o'r rhesymau pam y penderfynais ohirio cyflwyno'r cwricwlwm.
Yn wreiddiol, lluniwyd hyn gyda'r bwriad o wneud popeth ar unwaith ac y byddai'r system gyfan yn symud at y cwricwlwm newydd dros nos. Yn amlwg, roedd hynny, o bosibl, yn beryglus i'r myfyrwyr hynny a oedd yn cyrraedd diwedd eu haddysg orfodol ac yn gweithio tuag at yr arholiadau tyngedfennol hynny. A dyna pam yr ydym wedi gwneud y penderfyniad i gyflwyno'r rhaglen yn raddol. Felly, wrth gwrs, ni fydd y cymwysterau sy'n gysylltiedig â'r cwricwlwm newydd hwn yn digwydd mewn gwirionedd tan 2026. Mae hynny'n ymddangos yn bell iawn i ffwrdd, ond rydym eisoes yn y broses gynllunio ar gyfer yr hyn y bydd y newid hwn yn y cwricwlwm newydd yn ei olygu i gymwysterau.
Rhagweld yr wyf i, Llywydd, y bydd Suzy Davies a minnau'n cael dadleuon hir ynghylch dyletswyddau a chanllawiau statudol. Wrth gwrs, wrth i'r ddeddfwriaeth gael ei drafftio a'i chyflwyno, rwy'n edrych ymlaen at fynd i'r afael â'r rheini. Rydym wedi bod yn gwbl glir ynghylch y dyletswyddau a fydd ar wyneb y Bil—dyletswyddau i Lywodraeth Cymru a dyletswyddau i ysgolion a phenaethiaid a chyrff llywodraethu, a'r hyn a ofynnir ganddyn nhw. Ond rwy'n awyddus i ystyried y safbwyntiau a ddaw gerbron yn ystod y papur ymgynghori hwn, yn gyntaf oll, ac yna wrth i ni symud ymlaen at y ddeddfwriaeth. Byddaf yn dechrau ar y trafodaethau hynny gyda meddwl agored.
Gofynnodd yr Aelod pa ran a gafodd plant yn y broses hyd yn hyn. Gadewch i mi roi enghraifft glir iawn i chi: byddwch yn ymwybodol o'm datganiad i, a datganiadau blaenorol yr wyf wedi eu gwneud, y byddwn yn rhoi Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb ar wyneb y Bil. Mae hynny mewn ymateb i argymhelliad gan adroddiad y grŵp arbenigol a phwysau'r dystiolaeth a roddodd y bobl ifanc eu hunain i'r broses honno ynglŷn â pha mor bwysig oedd hyn. Mewn gwirionedd, dyma enghraifft o ymwahanu oddi wrth 'Ddyfodol Llwyddiannus'—mae hwn yn ychwanegiad newydd—ond rydym yn gwneud hyn gan fod pwysau'r dystiolaeth gan y bobl ifanc eu hunain a gafodd ei fwydo i'r broses honno yn dangos eu bod eisiau gweld y newid hwn ac rydym wedi gwrando ar hynny. Ac un enghraifft yn unig yw honno.
Yn amlwg, cafwyd enghreifftiau eraill lle mae pobl ifanc wedi ymgysylltu, ond, yn hollbwysig, byddwn yn gwneud corff penodol o waith pan gyhoeddir y Meysydd Addysg a Phrofiad adeg y Pasg, pan fydd gennym rywbeth diriaethol i'w drafod gyda phlant a phobl ifanc. Wrth gwrs, mae'n demtasiwn siarad ar hyn o bryd am yr hyn a roddir yn y ddeddfwriaeth a beth sy'n briodol mewn gwirionedd i'r Meysydd Addysg a Phrofiad unigol. Bydd yn rhaid i Suzy Davies aros ychydig eto nes y bydd y Meysydd Addysg a Phrofiad hynny'n cael eu cyhoeddi adeg y Pasg. A bydd hynny, gobeithio, yn taflu rhywfaint o oleuni ar rai o'r cwestiynau eraill a godwyd ganddi hi. Ar yr un pryd, byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth am asesu a gwerthuso i gyd-fynd â chynnwys y Meysydd Addysg a Phrofiad. Mae'r Papur Gwyn yn nodi rhai dyletswyddau ynghylch asesu a sut y bydd asesu ar gyfer dysgu yn digwydd yn sgil y broses hon. Ac mae'n rhaid inni wahaniaethu bob amser rhwng asesu a gwerthuso—dau wahanol beth ydyn nhw, a gynlluniwyd at ddau wahanol ddiben yn ein system addysg, a chaiff manylion pellach ar y gwerthusiad a'r mesurau atebolrwydd eu cyhoeddi yn nes ymlaen yn y gwanwyn.
A gaf i ddod at fater iaith? Yn amlwg, nid oes dim yn y cynigion hyn a fydd yn tanseilio'r mater iaith yr wyf yn credu yr oedd yr Aelod yn cyfeirio ato, o ran addysg drochi, yn enwedig ar gyfer ein plant ieuengaf mewn addysg cyfrwng Cymraeg. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod, sy'n gefnogol, rwy'n credu, i'r cyfnod sylfaen, yn ymwybodol o'r canllawiau cyfredol sydd ar gael i ymarferwyr y cyfnod sylfaen. Mae'n dweud y dylid helpu plant i ddatblygu ymwybyddiaeth o Gymru fel gwlad a chanddi ddwy iaith a
Dylai sgiliau iaith a ddysgir mewn un iaith fod yn gefnogol i ddatblygiad gwybodaeth a sgiliau mewn iaith arall.
Mae hynny eisoes yn ein canllawiau ar y cyfnod sylfaen, y disgwylir i bob lleoliad cyfnod sylfaen ei gyflawni. Nid oes unrhyw beth yn y papur hwn y credaf y bydd yn tanseilio hynny.
Mae fy ymrwymiad i'r iaith fel rhan bwysig o'n system addysg yn un personol, oherwydd y dewisiadau a wneuthum i fy hunan—dewisiadau cadarnhaol yr wyf wedi eu gwneud i'm plant fy hun. Mae gennyf i dri tuag at darged 2050 y Llywodraeth a fydd yn ddwyieithog oherwydd y cyfleoedd addysg cyfrwng Cymraeg. Mae hwn yn ymrwymiad proffesiynol ac yn ymrwymiad polisi.
Rwy'n falch iawn ein bod yn diwygio'r system addysg fel y bydd pob plentyn—pob un plentyn—yn cael cyfle mwy cyfartal i fod yn ddinesydd dwyieithog yn y genedl hon a dysgu mwy o ieithoedd hyd yn oed o oedran iau. Oherwydd, fel chi, rwyf innau'n rhannu eich pryderon ynglŷn ag ieithoedd tramor modern. Mae'n ddrwg gennyf os nad ydym wedi gwneud hynny'n glir yn y datganiad. Wrth gwrs, bydd cyfnod allweddol 3 yn diflannu; ni fydd unrhyw gyfnodau allweddol yn y broses newydd. Mewn gwirionedd, yr hyn yr ydym yn gobeithio ei wneud yw cyflwyno ieithoedd eraill yn gynharach yn nhaith addysgol y plentyn, tra byddan nhw yn yr ysgol gynradd. Mae hynny'n golygu ieithoedd tramor modern, mae'n golygu ieithoedd o wareiddiad hynafol—roedd gan y Gweinidog blaenorol, mi wn, olwg arbennig ar Ladin. Rydym hefyd yn edrych ar ieithoedd cymunedol—felly, yr ieithoedd hynny sy'n cael eu siarad mewn gwahanol rannau o'n cymuned—ac Iaith Arwyddion Prydain hefyd. Bydd cyfle gan ysgolion, ac yn wir bydd yn ofynnol iddynt sicrhau y bydd y profiadau hynny ar gael yn y sector cynradd. Oherwydd rwyf i o'r farn ei bod yn rhy hwyr os arhoswch nes i'r plentyn fynd i'r ysgol uwchradd cyn cyflwyno ffyrdd eraill o gyfathrebu ac ieithoedd eraill, ac mae hynny wedi arwain at rai o'r problemau a welir o ran niferoedd ar hyn o bryd.
Rwy'n credu bod hynny'n cwmpasu, yn ddigon agos, y pwyntiau a godwyd gan yr Aelod, ond rwy'n ddiolchgar am yr ysbryd cydweithredu a'r parodrwydd i fod â rhan yn y broses hon. Fel y dywedais, cenhadaeth genedlaethol yw hon ac rydym ni'n Gynulliad Cenedlaethol, ac rwy'n siŵr y bydd pob Aelod yn dymuno gwneud cyfraniad.