Part of the debate – Senedd Cymru am 4:13 pm ar 29 Ionawr 2019.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw ac am roi copi ymlaen llaw ohono inni? Mae gordewdra, fel rydym ni’n gwybod, yn her iechyd cyhoeddus fawr yng Nghymru, ac rydych chi wedi cyfeirio at nifer o ystadegau pwysig heddiw ac effaith gordewdra ar iechyd pobl, gan gynnwys, yn bwysig iawn, eu hiechyd meddwl a'u lles.
Rydym ni’n gwybod, yn ôl yn 2017, Gweinidog, bod cynghrair gordewdra Cymru wedi gwneud 18 o argymhellion ar eu barn am sut i fynd i'r afael â gordewdra ac ymdrin â’r dybiaeth bod, ac rwy’n dyfynnu, 'bod dros bwysau wedi dod yn normal yng Nghymru'. Mae hynny, wrth gwrs, yn rhywbeth yr ydych chi’n ei ailadrodd yn eich dogfen ymgynghori. Mae eich strategaeth wedi cynnwys nifer o faterion o’r argymhellion a wnaeth cynghrair gordewdra Cymru, ac rwy’n falch iawn o weld y cyfeiriad at y rheini ac yn falch iawn o weld bod y Llywodraeth yn ymgynghori ynglŷn â chymryd camau i fynd i'r afael â nhw.
Un o'r pwyntiau maen nhw wedi eu codi, yn ddigon teg, yw bod angen mwy o reoleiddio yn y cyfryngau ynghylch hysbysebu cynhyrchion bwyd afiach, ac rwy’n gwybod bod hynny'n rhywbeth nad oes gennym ni fel Cynulliad Cenedlaethol gyfrifoldeb datganoledig drosto eto. Ond tybed a allwch chi ddweud wrthym ni pa drafodaethau rydych chi wedi'u cael gyda'r Ysgrifennydd iechyd dros y ffin yn Llywodraeth y DU ynghylch y cyfleoedd a allai fod i weithio gyda nhw, fel y gallwn ni gael rhyw fath o ffordd i’r DU gyfan i ddatrys y mater hwn o hysbysebu yn y cyfryngau, oherwydd rwy’n gwybod ei fod yn destun pryder mawr i lawer o bobl.
Wrth gwrs, hoffem ni i gyd weld pobl yn bwyta bwyd iachach. Hoffem ni i bobl leihau eu dibyniaeth ar brydau parod, sy’n aml iawn yn cynnwys llawer o halen a chyfran uchel o fwydydd wedi'u prosesu, ac mae’r gynghrair gordewdra wedi awgrymu bod darparu gwersi coginio, nid yn unig mewn ysgolion ond hefyd i oedolion, i’w haddysgu nhw sut i fanteisio i'r eithaf ar fanteision paratoi eu bwyd eu hunain, yn un ffordd o helpu i newid ymddygiad pobl. Yn amlwg, mae hon yn broblem eithaf cymhleth, ond byddwn yn ddiolchgar pe gallech roi gwybod pa fath o strategaeth a allai fod gan y Llywodraeth i gyrraedd y bobl hynny sydd eisoes yn oedolion, ond sydd ddim yn gynulleidfa gaeth yn ein hysgolion, fel y gallwn ni eu harfogi nhw i wneud y dewisiadau ffordd o fyw hynny i baratoi mwy o’u bwyd eu hunain mewn ffordd fforddiadwy, yn enwedig yn yr ardaloedd hynny lle gall tlodi fod yn broblem weithiau, a lle mae fforddiadwyedd bwyd mewn siopau ac archfarchnadoedd yn uwch nag mae rhai pobl yn gallu ei fforddio.
Roedd yr ‘Adroddiad ar Gyflwr Gwasanaethau Mamolaeth’ yn ôl yn 2018, a lansiwyd ym mis Tachwedd gan Goleg Brenhinol y Bydwragedd, hefyd yn tynnu sylw at y problemau sy'n gysylltiedig â chyfraddau gordewdra a beichiogrwydd, ac, unwaith eto, roeddwn yn falch o glywed eich datganiad heddiw’n cyfeirio at hynny. Tybed beth allwch chi ddweud wrth yr Aelodau heddiw ei fod ar waith, fel petai, neu ba gynigion rydych chi'n eu cynnig, i helpu i fynd i'r afael â chyfradd uchel gordewdra. Rydym yn gwybod bod llawer mwy o doriadau Cesaraidd mewn rhai rhannau o Gymru yn ein hysbytai nag sydd ei angen efallai, ac mae rhywfaint o hynny’n gysylltiedig â gordewdra. Felly, pa gamau rydych chi’n eu cymryd i ddatrys y broblem honno, yn enwedig yn yr ardaloedd hynny lle mae gennym ni glwstwr o broblemau gordewdra mewn perthynas â beichiogrwydd?
Mater arall a godwyd gan y gynghrair gordewdra oedd bod angen inni gyhoeddi data am gyfraddau gordewdra i sicrhau y ceir tryloywder fel y gallwn ni fesur cynnydd a llywio penderfyniadau polisi yn y dyfodol. Tybed a allwch chi ddweud wrthym ni beth fyddai’r dangosyddion perfformiad allweddol fel y gallwn ni yn y Siambr hon ddal y Llywodraeth i gyfrif am wneud rhywfaint o gynnydd ar fater sy’n un pwysig dros ben.
A gaf i ofyn hefyd ichi edrych ar yr holl fater o ragnodi cymdeithasol ac a yw hynny’n effeithiol? Rwy’n gwybod bod llawer o feddygon teulu y dyddiau hyn yn defnyddio rhagnodi cymdeithasol drwy ragnodi ymarfer corff neu fynd i gampfeydd lleol. Ond dydw i ddim yn meddwl, a dweud y gwir, bod hyn yn cael ei hyrwyddo mor eang ag y gallai fod. Rydym ni’n gwybod bod rhagnodi cymdeithasol yn gallu cael effaith enfawr ar iechyd meddwl pobl, yn ogystal â’u helpu nhw gyda’u pwysau, a byddwn yn ddiolchgar o gael gwybod pa mor gyffredin wir yw defnyddio rhagnodi cymdeithasol yng Nghymru, ac a allwch roi unrhyw wybodaeth inni ynglŷn â sut y gallwn ni fel Aelodau Cynulliad ddwyn ein byrddau iechyd lleol a’n gwasanaethau meddygon teulu ein hunain yn ein hardaloedd i gyfrif am gyflawni hynny.
Ychydig o flynyddoedd yn ôl, hefyd, roedd dau fwrdd iechyd yng Nghymru yn diystyru rhywfaint o'r cyngor roedden nhw wedi’i gael gan y Llywodraeth ynglŷn â gwahardd bwydydd llawn braster a siwgr rhag cael eu gwerthu mewn peiriannau gwerthu, yn enwedig ar yr ystad ysbytai. Roedd data ar y pryd yn dangos bod 18 o beiriannau gwerthu yn Ysbyty Treforys Abertawe Bro Morgannwg a oedd yn gwerthu diodydd meddal, melysion, ac ati, a bod gan Ysbyty Singleton ac Ysbyty Tywysoges Cymru, sydd hefyd yn gweithredu yn ardal y bwrdd iechyd hwnnw, 16 o beiriannau diodydd meddal rhyngddynt. Dywedodd Cwm Taf fod chwech o'u hysbytai nhw hefyd yn cynnig diodydd tun, siocledi a melysion mewn 37 o beiriannau gwerthu. Gwnaethoch gyfeirio yn eich datganiad at yr angen i ddangos arweinyddiaeth, ac nid wyf yn siŵr bod hynny'n cynrychioli'r math o arweinyddiaeth yr hoffech chi na fi ei gweld gan y GIG. Felly, a allwch chi gadarnhau y gwnaiff eich Llywodraeth chi, yn y dyfodol, ddileu diodydd llawn siwgr, siocled, byrbrydau afiach eraill mewn peiriannau gwerthu ac ysbytai?
Ond hoffwn i—