Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 29 Ionawr 2019.
Diolch am y gyfres o gwestiynau. Rydych yn iawn nad yw rheoleiddio hysbysebu wedi'i ddatganoli, er bod swyddogion yn cysylltu’n rheolaidd ag Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol y DU. Maen nhw'n mynd i ymgynghori ynglŷn â mesurau ychwanegol o gwmpas hysbysebu a'r potensial ar gyfer, yn enwedig, bwydydd sy’n cynnwys llawer o fraster a halen—yn y bôn, i gyflwyno trothwy amser ar gyfer hysbysebu. Rydym ni o blaid, yn fras, cyfyngiadau ar yr hyn y gellir ei hysbysebu ar amser penodol, ac, yn benodol, sut mae wedi’i dargedu. Yna, rydym ni hefyd yn ystyried a oes yna bethau y gallem ni eu gwneud o ran sut y mae gwahanol gynhyrchion yn cael eu hysbysebu mewn digwyddiadau rydym ni ein hunain yn eu noddi a’u hyrwyddo.
O ran eich pwynt am goginio ar gyfer oedolion, os edrychwch chi drwy'r ddogfen ymgynghori, rydym ni’n cydnabod, a dweud y gwir, bod helpu pobl i baratoi bwyd iachach yn ffactor allweddol. Yn wir, mae bron bob un o'n rhaglenni gwrthdlodi wedi edrych ar helpu pobl i baratoi bwyd iachach hefyd. Mae'n rhan arferol o'r sgwrs—mae hefyd yn rhan o beth rydym ni’n ceisio ei wneud i hyrwyddo neges bwyta'n iach drwy ysgolion. Nid dim ond mater o addysgu plant yw hyn—mae’n berthnasol i holl gymuned yr ysgol. Rhan o'r hyn y byddwn ni’n ei wneud yn yr ymgynghoriad yw, yn ogystal â’r grwpiau rydw i wedi eu hamlinellu, yw gwneud yn siŵr ein bod ni’n siarad â rhieni sy’n cymryd rhan yn Dechrau'n Deg. Rydym ni hefyd yn mynd i gael rhai sgyrsiau o amgylch cymunedau ysgol yn ogystal â siarad â disgyblion a rhieni, yn hytrach na dim ond bod ar un pen neu’r llall i'r sgwrs.
O ran gordewdra a beichiogrwydd, mae hyn yn berthnasol i'r her gyffredinol sydd gennym ni o gynnal pwysau iach drwy fywyd. Os mai dim ond yn union cyn beichiogrwydd neu pan fydd rhywun eisoes yn feichiog rydych chi am gael y sgwrs honno, gallwch chi ddal i wneud rhai pethau i helpu pobl i reoli eu pwysau. Ond, a dweud y gwir, hoffem ni achub y blaen ar hynny i geisio gwneud yn siŵr ein bod ni'n cael sgwrs ehangach yn hytrach na llwytho hyn i mewn i addysg cyn geni.
Ond, wrth gwrs, y gwir amdani yw ein bod ni wedi cynyddu niferoedd ein bydwragedd i wneud yn siŵr ein bod ni’n cydymffurfio â Birthrate Plus, ac mae hynny’n bennaf oherwydd y cymhlethdod ychwanegol wrth gyflawni geni. Mae hynny'n rhannol oherwydd bod menywod yn tueddu i fod yn hŷn nawr wrth roi genedigaeth, ond hefyd oherwydd heriau gordewdra hefyd. Felly, mae gwneud yn siŵr bod babanod yn cael eu geni’n ddiogel yn her, ac rydym ni wedi ymateb i hynny drwy gynyddu nifer ein bydwragedd yn sylweddol a chynnal y buddsoddiad yn eu hyfforddi.
Ond, fel y dywedais i, yn hyn o beth, rwy’n meddwl bod gennym ni fwy o ddiddordeb mewn sut i wneud i bob cyswllt gyfrif, pan fydd pobl yn cysylltu â gweithwyr iechyd proffesiynol, ac yn y newid diwylliannol mwy cyffredinol yr hoffem ni ei weld yn datblygu. Mae hynny'n golygu gweithio gyda phobl, a dyna pam nad ydym ni'n cyfeirio at hyn fel strategaeth gordewdra, oherwydd y gwir yw bod yr iaith a’i fframio yn y sgwrs yn bwysig iawn. Os yw pobl yn teimlo eu bod nhw’n cael eu barnu, maent yn annhebygol o ddangos diddordeb, gan gynnwys y bobl hynny sydd ag eisiau help i wneud gwahaniaeth.
O ran y mesurau yr hoffem ni eu mabwysiadu, mae hynny’n rhan o bwynt cynnal yr ymgynghoriad—i weld beth sy'n gweithio, ac yna, pan fydd gennym ni hynny a phan fyddwn ni’n cyflawni strategaeth, byddwn ni'n glir ynglŷn â sut y bydd gennym ni gerrig milltir a meincnodau i ddeall a ydym ni wir yn gwneud cynnydd a sut y mae'n briodol i fesur y Llywodraeth a pha uchelgeisiau y dylem ni eu gosod ar gyfer y wlad. Mae hwnnw'n gwestiwn ehangach yma, oherwydd ni all y Llywodraeth ar ei phen ei hun ddatrys y mater hwn—pe gallem ni, byddem yn sicr wedi gwneud hynny erbyn hyn.
Ynglŷn â’ch pwynt am bresgripsiynu cymdeithasol, rwyf wedi gwneud nifer o ddatganiadau yn y Siambr ynglŷn â phresgripsiynu cymdeithasol, am ei ddefnyddio nid yn unig, er enghraifft, yn y cynllun cenedlaethol i atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer corff, ond yn y buddsoddiadau ychwanegol rydym ni wedi eu gwneud, ynghyd â’r trydydd sector, sydd wedi’u targedu’n bennaf at iechyd meddwl. Fe wnaf roi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr eto, pan fyddwn ni wedi gwerthuso’r prosiectau rwyf i wedi eu cyhoeddi eisoes.
O ran eich pwynt ehangach am ddileu peiriannau gwerthu, mae her bob amser o ran y cydbwysedd yn yr hyn rydym ni’n ei wneud. Rwy’n disgwyl y bydd rhai mesurau’n dod o’r ymgynghoriad a fydd yn heriol ynghylch sut yr ydym ni’n bwrw ymlaen â hynny. Bydd safbwyntiau cryf iawn ar y ddwy ochr. Os ydym ni’n dweud yn syml, ‘Chaiff ysbytai ddim gwerthu siocled’, er enghraifft, rydym ni’n gwybod y bydd pobl yn mynd i’w brynu o leoedd eraill hefyd.
Felly, mae'n rhan o'r newid diwylliannol, ond os edrychwch chi ar sut y mae byrddau iechyd wedi symud dros y blynyddoedd diwethaf, y gwir yw bod y bwyd y byddwch chi’n ei weld ar gael o fewn ein safleoedd ysbyty wedi gwella'n fawr, ac mae llawer mwy o ymwybyddiaeth o'r cynnig a’r ffaith ei fod yn gynnig iachach hefyd. Rwy’n disgwyl i’r symudiad hwnnw barhau, ond rwyf wir yn edrych ymlaen i glywed beth a fydd gan Aelodau yma a'r tu allan i’w ddweud yn ystod yr ymgynghoriad.