4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Pwysau Iach: Cymru Iach — Ein huchelgeisiau cenedlaethol i atal a lleihau gordewdra yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:30 pm ar 29 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 4:30, 29 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy’n hapus i gadarnhau’r ymrwymiad a roddais eisoes i ddyddiad ym mis Hydref ar gyfer cyhoeddi’r strategaeth. Rwy’n disgwyl y bydd yn cynnwys mesurau a cherrig milltir, ond cerrig milltir, mesurau a thargedau doeth, nid rhai uchelgeisiol. Rwy’n awyddus iawn i gael rhywbeth y gellir ei gyflawni, yn ogystal â mesurau lle gallwn olrhain ein cynnydd, fel y bydd pobl yn gallu gweld y cynnydd a wnawn nid yn unig fel Llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus, ond sut yr ydym ni mewn gwirionedd yn dylanwadu ar ymddygiad ac yn helpu i’w newid. Mae llawer o'r hyn yr ydym yn sôn amdano, mewn gwirionedd, yn ymwneud â sut yr ydym ni’n helpu i newid ymddygiad pobl, yn ogystal ag un o'r pwyntiau y gwnaethoch chi am sut i wneud dewisiadau iachach yn ddewisiadau haws. Mae hynny'n bwysig iawn inni hefyd.

Ac ar un o'r pwyntiau hynny, wrth gwrs, yn anffodus, nid yw’n glir o gwbl—yn wir, barn y mwyafrif yw nad oes gennym ni’r pwerau i ystyriaethau iechyd y cyhoedd fod yn ddyfais gynllunio ddilys, felly nid oes modd cyfyngu ar nifer y siopau bwyd cyflym o gwmpas ysgolion, canolfannau hamdden neu ardaloedd eraill. Credaf fod hynny'n broblem. Mae'n faes lle cafwyd dadl rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ystod hynt y Ddeddf Cymru ddiwethaf, ynghylch pwerau a gedwir yn fwriadol gan Lywodraeth y DU. Rwy’n credu y gallem wneud llawer mwy o gynnydd pe gellid ystyried hynny yn ystyriaeth gynllunio ddilys, ac rwy’n credu y byddem ni i gyd mewn sefyllfa lawer gwell. Ond eto nid yw hynny'n golygu, pan fyddwn yn ystyried cynllunio amgylcheddau iach i fanteisio ar yr hyn sydd gennym ni, na fyddem ni’n gallu gwneud mwy eisoes yn y ffordd yr ydym yn cyflenwi gwasanaethau ac yn y ffordd yr ydym yn cynllunio datblygiadau newydd.

O ran eich pwynt ehangach ar leoliadau iach a’r gweithgarwch mewn ysgolion, ceir pwynt yma am lythrennedd iechyd fel rhan o'r cwricwlwm newydd. Rydym newydd gael datganiad yn para dros awr gyda chwestiynau am ddatblygiad y cwricwlwm newydd. Rydym yn glir iawn ynglŷn â swyddogaeth iechyd a llythrennedd iechyd o fewn y cwricwlwm newydd. I fod yn glir am y gweithgarwch mewn ysgolion, nid dim ond sôn am y filltir ddyddiol yw hyn ac nid dim ond sôn am chwaraeon mewn ysgolion ychwaith, oherwydd mae pobl fel fi a oedd wrth eu bodd â chwaraeon ac yn eu mwynhau, ond, a dweud y gwir, mae pobl eraill sydd ddim erioed wedi eu hoffi. Serch hynny, mae angen inni ddeall bod gweithgarwch yn rhan bwysig o symud o gwmpas a byw bywyd, ac nid yw hynny’n golygu ein bod ni’n mynd i ddweud bod yn rhaid i bawb orfod gwisgo rhy ychydig o ddillad ar ddiwrnod oer iawn i gael rhywun i weiddi arnoch chi; dydy hynny ddim yn ffordd wych o wneud i bobl syrthio mewn cariad â chwaraeon nac unrhyw fath arall o weithgaredd penodol. Sut i normaleiddio gweithgarwch sy’n bwysig, yn fy marn i.

Ac ar eich pwynt am newid diwylliannol—wrth gwrs, dyna'n union yr hyn a ddywedais yr ydym yn ceisio ei gyflawni, ac rwy’n siŵr y bydd yr Aelod dros Lanelli yn bwrw ymlaen â’i ddiddordeb parhaus mewn teithio llesol, er enghraifft. Soniais am hynny yn y datganiad ynglŷn â sut rydym ni’n mynd o gwmpas ac yn symud o gwmpas. Bydd hynny’n bwysig iawn hefyd. Ond hefyd, rwy’n siŵr y cofiwch chi, wrth gwrs, y gronfa iach ac egnïol, gwerth £5 miliwn, yr oeddwn i’n falch iawn o’i lansio gyda fy nghyd-Aelod, y Dirprwy Weinidog diwylliant—. Mae’r teitl wedi'i ddiweddaru ychydig bellach—Dirprwy Weinidog y Gymraeg a materion rhyngwladol. Na? Dyna’r Gweinidog. Yr Arglwydd Elis-Thomas beth bynnag—[chwerthin.]—a fi a lansiodd y gronfa iach ac egnïol gwerth £5 miliwn. Mae’n ymwneud â defnyddio'r holl asedau sydd gennym ni ac, unwaith eto, mae'n gobeithio hybu newid diwylliannol, yn ogystal â defnyddio’r holl gyfleoedd ar gyfer mwy o weithgarwch corfforol yn y modd gorau posib.

Yn olaf, ar eich pwynt am fwydo ar y fron, mae'n bwnc yr ydym ni’n dychwelyd ato’n rheolaidd yn y Siambr, fel y dylem ni. Mae'n her symud o 'y fron sydd orau' i 'mae’r fron yn normal', a normaleiddio bwydo ar y fron a gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei dderbyn a’i gefnogi, ac, ar yr un pryd, nad yw merched sy'n gwneud dewisiadau gwahanol am fwydo eu plant yn cael eu barnu ychwaith. A dyna eich pwynt olaf am beidio â barnu pobl, am geisio helpu pobl i wneud dewisiadau iachach, heb ddymuno gwthio pobl i rywle lle mae ganddyn nhw anhwylderau bwyta naill ai oherwydd bwyta gormod neu ddim digon, ond am sut yr ydym yn dweud, 'Beth yw pwysau iach a meddwl iach i allu cynnal a chadw pwysau iach?', a dyna sy’n hoelio ein sylw. Dyna sut yr hoffwn i’r sgwrs ddigwydd.