Part of the debate – Senedd Cymru am 4:45 pm ar 29 Ionawr 2019.
Diolch am y sylwadau. Rydych chi’n iawn i nodi maint gwahaniaethol yr her sy'n ein hwynebu. Ac mae’n rhan o ail-normaleiddio gweithgarwch a meddwl am y dewisiadau a wnawn ni fel rhieni, oherwydd rydym ni’n gwneud dewisiadau ar gyfer ein plant, ac, wrth wneud hynny, rydym ni mewn gwirionedd yn helpu i bennu eu patrymau ar gyfer bywyd, ac mae hynny'n rhan o'n her. Unwaith eto, mae'n mynd yn ôl i beidio â barnu pobl. Os dywedwch chi wrth rieni, 'Rydych chi'n rhieni gwael oherwydd mae eich plentyn dros bwysau', wnaiff hynny byth—wel, i’r mwyafrif helaeth o bobl, bydd hynny’n eu hanfon nhw’n bellach i ffwrdd ac ni fydd yn ennyn y math o ymddiriedaeth a’r sgwrs y mae angen inni ei chael ynglŷn â sut i wneud y dewisiadau iachach hynny’n llawer haws i bobl. A cheir enghreifftiau micro-gymunedol o bethau sydd wedi gweithio. Yr her yw gwneud hyn ar raddfa, a dyna yw ein her fawr: creu newid diwylliannol sylweddol a newidiadau mewn ymddygiad cymunedol.
Mae’r cyfle bob amser yn fwy pan fydd plant yn iau, ac mae rhieni, a dweud y gwir, yn fwy tebygol o rannu straeon â'i gilydd. Rydych chi'n fwy tebygol o ryngweithio â rhieni pan fo’r plant yn iau, â’r gwahanol weithgareddau y maen nhw’n eu gwneud cyn ysgol gynradd ac wedyn hefyd. Felly, mae cyfle go iawn yn digwydd yn y blynyddoedd cynnar hynny mewn bywyd. Yn wir, rydym ni’n gweld rhai newidiadau buddiol gyda, er enghraifft, rhaglen y 1000 Diwrnod Cyntaf, ond y bwriad yw cynyddu’r raddfa o ran cysondeb a gweithgarwch.
Ar y pwynt ehangach ynglŷn â sut yr ydym ni’n gweithio ar draws y Llywodraeth, ar y thema iach ac egnïol, mewn gwirionedd roedd gennym ni ddwy wahanol strategaeth i ddechrau: un ar weithgarwch ac un ar bwysau iach. Rydym ni wedi dod â nhw at ei gilydd yn fwriadol oherwydd bod cysylltiadau clir yno a hoffem ni sicrhau eu bod yn fwriadol. Yn wir, yr wythnos diwethaf, roeddwn i a’r Dirprwy Weinidog yn bresennol mewn grŵp traws-Lywodraeth yn edrych ar sut y gallwn fwrw ymlaen â mwy o weithgarwch, i edrych ar wahanol ddulliau Llywodraeth o deithio llesol i amgylchedd iachach i bobl yn nhîm Lesley Griffiths, ac i edrych ar sut i ymdrin â hyn ar draws y Llywodraeth ac nid dim ond dweud, 'Mater iechyd ac addysg yw hwn'. Ac mae hynny hefyd yn rhan o'r rheswm pam yr oedd gennym ni’r gronfa iach ac egnïol yn gweithio nid yn unig gyda Chwaraeon Cymru ond hefyd, er enghraifft, gyda Chyfoeth Naturiol Cymru yn ogystal i ddefnyddio’r asedau sydd gennym ni eisoes, ac, unwaith eto, i normaleiddio defnyddio'r asedau hynny sy’n bodoli o fewn cyrraedd rhwydd i bob cymuned i wneud yn siŵr bod pobl yn gwybod eu bod nhw yno a’u bod nhw wir yn manteisio ar y cyfle i'w defnyddio nhw.