Cynnig i Atal Rheolau Sefydlog

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:39 pm ar 29 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:39, 29 Ionawr 2019

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cynnig i atal dros dro Reolau Sefydlog 12.20 ac 12.22 a'r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol er mwyn caniatau cynnal dadl ar y rhagolygon am gytundeb Brexit yn dilyn y bleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin i'w gynnal fory. Galwaf ar y Trefnydd i wneud y cynnig yn ffurfiol.