Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 5 Chwefror 2019.
Mae'r cyd-destun ar gyfer darparu rheilffyrdd yng Nghymru yn gymhleth, yn dameidiog ac wedi'i danariannu. Cynlluniwyd y setliad rheilffordd presennol cyn dyfodiad datganoli. Er y gwnaed rhai ymdrechion i'w esblygu, mae'r setliad presennol yn parhau i adlewyrchu'r cyfnod pan gafodd ei greu. Ugain mlynedd ar ôl datganoli, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth yn San Steffan sydd yn y pendraw yn rheoli'r seilwaith rheilffyrdd yma yng Nghymru.
Y setliad datganoli amherffaith hwn yw gwraidd llawer o'r problemau gyda'n rheilffyrdd. Mae'n tanseilio ein hymrwymiad i annog twf economaidd cynhwysol, i ddarparu buddsoddiad cytbwys ar draws rhanbarthau ac i ddatblygu rheilffordd sy'n diwallu anghenion cymdeithasol ein cymunedau gwledig.
Rydym ni'n gwybod nad yw rhaglen wella Llywodraeth y DU yn gwasanaethu Cymru ac nad yw'n diwallu ein hanghenion ni. Hyd yma, nid ydym ni wedi gweld un o'r achosion busnes a gyhoeddwyd pan ganslodd Llywodraeth y DU y cynllun trydaneiddio i Abertawe dros 18 mis yn ôl. Nid ymrwymwyd i roi arian ar gyfer unrhyw gynlluniau i wella ein rheilffordd—ni roddwyd eglurder ynghylch cynnydd na'r camau nesaf.
Ni ellir parhau i ddefnyddio ffordd Llywodraeth y DU o ddyrannu cyllid, sy'n rhoi blaenoriaeth i ardaloedd o'r wlad lle mae mwy o bobl yn defnyddio rheilffyrdd, yn aml oherwydd mwy o fuddsoddiad hanesyddol. Mae'r pwyslais ar eu blaenoriaethau seilwaith, eu meini prawf buddsoddi a'u cymhellion gwleidyddol eu hunain mewn gwirionedd yn gwahaniaethu yn erbyn ein cymunedau llai o faint a mwy anghysbell, ac yn lleihau ein gallu i ddarparu'r rhwydwaith trafnidiaeth integredig y mae pobl Cymru yn ei haeddu. Mae'r diffyg buddsoddi parhaus yma mewn seilwaith yn cyfyngu ar y capasiti ar gyfer gwasanaethau newydd, yn cyfyngu ar gyflymderau trenau newydd ac yn llyffetheirio ein gallu ni i agor y gorsafoedd yr ydym ni'n wirioneddol eisiau eu gweld.
Mae ein gweledigaeth strategol, 'Y Rhwydwaith Rheilffyrdd yng Nghymru: Yr Achos dros Fuddsoddi', a luniwyd gan yr Athro Mark Barry, yn cynnig dadl gref dros wella seilwaith y rheilffyrdd yng Nghymru a'r prif reilffyrdd sy'n gwasanaethu Cymru. O'r gwaith hwn, mae'n amlwg bod modd cyflawni mwy na £2 biliwn o fanteision economaidd o raglen fuddsoddi uchelgeisiol, realistig a theg o fewn seilwaith rheilffyrdd Cymru.
Disgwylir y bydd dros £3 biliwn yn cael ei wario ar y rheilffordd cyflymder uchel 2 yn Lloegr yn ystod y flwyddyn ariannol hon, a'r un peth eto ar wella'r rhwydwaith rheilffyrdd presennol. Byddai setliad datganoli teg i Gymru yn caniatáu inni, dros y 10 mlynedd nesaf, ariannu cynlluniau megis ailagor rheilffyrdd, trydaneiddio prif reilffyrdd y de a'r gogledd, a chodi gorsafoedd newydd ar draws y rhwydwaith.
Felly, rwy'n galw ar i Lywodraeth y DU gydnabod a mynd i'r afael â'r tanfuddsoddi hanesyddol hwn yn seilwaith rheilffyrdd Cymru drwy gynnig dull arall ar gyfer datblygu a darparu'r cynlluniau y mae eu hangen arnom ni i wella cysylltedd ledled Cymru. Byddai'r buddsoddiad sy'n ofynnol i fodloni'r safonau a bennwyd ar gyfer y llwybrau rhwydwaith trafnidiaeth traws-Ewropeaidd craidd drwy Gymru i Aberdaugleddau a Chaergybi erbyn 2030 yn sicrhau cynnydd sylweddol. Felly, mae'n rhaid i Lywodraeth y DU ddatblygu amserlen er mwyn cyflawni ei hymrwymiadau ar gyfer y rhwydwaith trafnidiaeth traws-Ewropeaidd, gan gynnwys trydaneiddio prif reilffyrdd y gogledd a'r de yn llawn. Ni ddylai Cymru fethu â manteisio ar y buddsoddiad hwn o ganlyniad i unrhyw benderfyniadau a wneir yng nghyd-destun Brexit.
Mae adolygiad trwyadl Keith Williams o reilffyrdd Prydain yn gyfle i ddiwygio'r rheilffordd ac i greu'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus gwbl integredig y mae ar Gymru ei angen. Ni ddylid colli'r cyfle hwn. Dylai ein rheilffordd fod yn un o'n hasedau mwyaf gwerthfawr yn gymdeithasol ac yn economaidd. Mae ganddi'r potensial i wneud cyfraniad enfawr, yng Nghymru, i fywydau pobl, ein cymunedau, yr amgylchedd a'n heconomi.
Rydym ni'n disgwyl i adolygiad Williams nodi cynllun clir er mwyn i Gymru gael mwy o lais wrth bennu gwasanaethau rheilffyrdd; i reoli a datblygu seilwaith gyda setliad cyllido teg; ac i sefydlu fframwaith rheoleiddio sy'n cydnabod amrywiaeth datganoli yn y DU, gan gynnal rheilffordd genedlaethol sydd o fudd i bob rhan o Brydain.
Rwy'n gofyn i Aelodau heddiw gefnogi ymateb Llywodraeth Cymru i adolygiad rheilffyrdd Llywodraeth y DU, adolygiad sy'n cael ei wneud gan Keith Williams, a'r newidiadau sylweddol y gofynnwyd amdanyn nhw. Bydd hyn yn rhoi'r mandad cryfaf imi pan fyddaf yn cyfarfod â Keith Williams yr wythnos nesaf i ddadlau'r achos dros ddwyn y setliad datganoli rheilffyrdd i'r unfed ganrif ar hugain, gan roi inni'r pwerau a'r arian sydd eu hangen arnom ni i ddarparu'r rheilffordd y mae pobl Cymru yn ei haeddu.