Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 6 Chwefror 2019.
Diolch, Lywydd. Mynegwyd pryderon fod buddsoddiad mewn sgiliau ac addysg oedolion ar hyn o bryd yn canolbwyntio gormod ar oedolion ifanc, ar draul pobl 25 oed a hŷn. Erbyn 2022, bydd traean o weithlu Cymru dros 50 oed, felly mae dysgu oedolion yn llawer pwysicach nag erioed yng Nghymru. Weinidog, beth rydych yn ei wneud i ymestyn modelau addysg rhan-amser a hyblyg, sy'n darparu llwybr hanfodol i lawer o oedolion na fyddent fel arall yn gallu cael mynediad at addysg yng Nghymru?