Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 6 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 1:47, 6 Chwefror 2019

Diolch yn fawr iawn. Rydw i'n cytuno'n llwyr efo chi, ond dydy hynny ddim yn ddadl dros beidio â chynnwys hanes Cymru fel pwnc penodol o dan y rhestr hir sydd gennych chi o dan y teitl 'dyniaethau'. 

I droi hefyd at agwedd arall ar y cwricwlwm newydd—a dwi'n dyfynnu—mi fydd y cwricwlwm yn rhoi

'rhyddid i ymarferwyr ddefnyddio eu proffesiynoldeb a'u crebwyll i ddiwallu anghenion dysgwyr'.

Dyna ydy hanfod gweledigaeth Donaldson, mewn gwirionedd, yntê? Mae'r Papur Gwyn yn mynd ymlaen wedyn i ddweud y bydd yna lai o fanylder mewn deddfwriaeth o ran cynnwys y cwricwlwm na sydd yna ar hyn o bryd, ac y bydd cynnwys y meysydd dysgu a phrofiad yn cael ei amlinellu mewn canllawiau statudol.

Rŵan, rydym ni'n gwybod y bydd y cwricwlwm a'r trefniadau asesu newydd yn cael eu cyhoeddi ym mis Ebrill er mwyn cael adborth. Beth mae llawer o athrawon yn holi ydy: pryd bydd y canllawiau atodol ar gael a pha mor fanwl fydd y rheini? Mae llawer o athrawon yn dadlau bod angen arweiniad a chanllawiau clir a manwl ac maen nhw'n gofidio na fydd hynny ar gael.