Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 6 Chwefror 2019.
Diolch, Weinidog. Ond mynegwyd pryderon ynghylch diffyg ymwybyddiaeth o'r gefnogaeth ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr rhan-amser a mwy o amharodrwydd i fynd i ddyled ymhlith myfyrwyr hŷn fel ffactorau cyfrannol mewn unrhyw ostyngiad yn y galw am ddarpariaeth ran-amser. Mae Cyllid Myfyrwyr Cymru yn rhoi llawer o ffocws ar bobl ifanc, gan arwain at ddiffyg gwybodaeth bwysig, cyngor a chanllawiau ar gyfer myfyrwyr hŷn presennol a darpar fyfyrwyr hŷn. Beth rydych yn ei wneud, Weinidog, i sicrhau y caiff dysgwyr rhan-amser eu trin yn deg ac yn gyfartal fel fod opsiynau cyllid rhan-amser yn cael cyhoeddusrwydd mor amlwg â rhai amser llawn yng Nghymru?