Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 6 Chwefror 2019.
Ni fydd yn cael ei oddef, ac mae gan addysg ran bwysig i'w chwarae yn hynny, ond mae gan lawer o asiantaethau eraill ran bwysig i'w chwarae hefyd. Mae'r Aelod yn codi mater anffurfio organau cenhedlu benywod mewn perthynas â babanod benywaidd. Yn amlwg, mae hwnnw'n fater i fydwragedd a'r gwasanaeth iechyd gwladol fynd i'r afael ag ef. Ond gadewch i mi ddweud yn gwbl glir unwaith eto: ar draws y Llywodraeth, ar draws pob adran, rydym yn cydnabod bod anffurfio organau cenhedlu benywod yn ffurf erchyll ar gam-drin a byddwn yn gweithio ar y cyd gyda'n gilydd i roi diwedd arno.