Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 6 Chwefror 2019.
Weinidog, yn ddiweddar, cafodd fy apwyntiad ysbyty ei aildrefnu ar fyr rybudd. Yn ffodus, cefais y llythyr hysbysu y noson cyn yr apwyntiad. Fodd bynnag, gwn nad yw eraill wedi bod mor ffodus. O gofio ein bod yn cael ein hatgoffa'n gyson o'r gost i'r GIG pan fo apwyntiadau'n cael eu colli, beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod cleifion yn cael eu hysbysu am unrhyw newidiadau i'w hapwyntiadau, ac a wnewch chi ystyried defnyddio technoleg fel galwadau awtomataidd?