Part of the debate – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 6 Chwefror 2019.
Diolch, Lywydd, am y cyfle i agor y ddadl hon ar ran y Pwyllgor Deisebau. Mae'r ddeiseb rydym yn ei thrafod heddiw yn ymwneud â Iaith Arwyddion Prydain (BSL), a gallu plant byddar a'u teuluoedd i ddysgu a defnyddio BSL yn eu bywydau bob dydd. Fel y gŵyr pawb ohonom, mae cyfathrebu yn agwedd hanfodol ar fywyd. Fodd bynnag, gall achosi heriau sylweddol i rai yn ddyddiol.
Cyflwynwyd y ddeiseb hon, a gasglodd 1,162 o lofnodion, gan Deffo!, fforwm ar gyfer pobl ifanc fyddar yn Abertawe. Croeso i Deffo! a sylwedyddion eraill i'r oriel gyhoeddus, a hoffwn hefyd roi gwybod i'r Aelodau fod dehonglwr yn arwyddo'r trafodion drwy BSL yn yr oriel. Mae fersiwn BSL o adroddiad y pwyllgor ar gael ar-lein hefyd, a bydd fideo BSL o'r ddadl hon ar gael yn ddiweddarach heddiw ar Senedd.tv.
Hoffwn ddiolch hefyd i'r deisebwyr ar ran y pwyllgor—ac ar ran pob Aelod o'r Cynulliad hwn rwy'n siŵr—am eu dycnwch a'u hymrwymiad i frwydro dros welliannau i'r addysg a'r cymorth sydd ar gael ar gyfer pobl ifanc fyddar a thrwm eu clyw yng Nghymru. Yn fwyaf arbennig, mae'r pwyllgor yn diolch i Cathie a Helen Robins-Talbot o Deffo! am yr wybodaeth y maent wedi'i darparu drwy gydol y broses, yn ogystal ag i Luke a Zoe a roddodd dystiolaeth lafar rymus iawn i'r Pwyllgor Deisebau wrth i ni ystyried y ddeiseb.
Mae'r ddeiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella mynediad at addysg a gwasanaethau Iaith Arwyddion Prydain er mwyn gwella ansawdd bywyd i blant byddar a'u teuluoedd, ac i bobl fyddar o bob oedran. Mae oddeutu 2,600 o blant byddar yng Nghymru a nam ar y clyw yw prif angen addysgol arbennig dros 3,000 o ddisgyblion. Mae BSL yn iaith ar wahân nad yw'n ddibynnol ar, nac yn perthyn yn agos iawn i Saesneg llafar. Mae Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain yn datgan bod oddeutu 7,200 o ddefnyddwyr BSL yng Nghymru, a 4,000 ohonynt yn fyddar. Yn 2004, cafodd BSL ei chydnabod fel iaith yn ei hawl ei hun gan Llywodraeth Cymru.