Part of the debate – Senedd Cymru am 3:56 pm ar 6 Chwefror 2019.
Mae siarter genedlaethol ar gyfer darparu gwasanaethau ac adnoddau i blant a phobl ifanc byddar a'u teuluoedd yn un o'r opsiynau rydym yn eu hystyried. Rydym yn rhagweld y byddai'r siarter honno, rhwng Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill, yn ein helpu i ddeall y ddarpariaeth bresennol. Byddai hefyd yn adlewyrchu'r canllawiau arferion da a'r safonau sy'n cael eu datblygu ar fyddardod a cholli clyw i gefnogi'r gwaith o weithredu ein Deddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant. Yn hollbwysig, byddai hefyd yn ein helpu ni i fynd i'r afael â'r prinder dehonglwyr a thiwtoriaid ar hyn o bryd.
Er mwyn cynorthwyo awdurdodau lleol ymhellach i gynllunio eu gweithlu a nodi anghenion hyfforddi, rydym wedi cyhoeddi data, a gomisiynwyd gennym oddi wrth Uned Ddata Cymru, i ddarparu gwybodaeth am weithlu arbenigol awdurdodau lleol. Yn sicr, mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am sicrhau bod BSL ar gael i blant y nodwyd eu bod ei hangen. Fodd bynnag, bydd y cwricwlwm newydd, y byddwn yn ei gyflwyno o fis Ebrill ymlaen, yn caniatáu i ysgolion ddatblygu cwricwla sy'n ateb anghenion ac yn adlewyrchu diddordebau eu disgyblion. Bydd maes dysgu a phrofiad ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu, sy'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd, yn cwmpasu ystod eang o ieithoedd, gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain, iaith nad wyf erioed wedi'i disgrifio fel 'iaith dramor'.
Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru), a gyflwynwyd y llynedd, yn rhoi mantais i ni hefyd. Bydd yn sicrhau gwelliannau i blant ag anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys y rhai â nam ar y clyw. Mae tegwch a chydraddoldeb yn greiddiol i'r Ddeddf, ac mae'n anelu i sicrhau bod pob dysgwr yn cael ei gynorthwyo i gyrraedd ei botensial llawn, beth bynnag yw'r potensial hwnnw. Disgwylir y bydd y Ddeddf yn dod i rym ym mis Medi 2020, a bydd y cyfnod cyflwyno fesul cam yn para tan 2023. Tan hynny, mae'n rhaid i awdurdodau lleol sicrhau eu bod yn parhau i gydymffurfio â'r dyletswyddau a osodwyd arnynt gan Ddeddf Addysg 1996, a'r cod ymarfer anghenion addysgol arbennig ar gyfer Cymru.
Ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth, rwyf hefyd yn gweithio i godi lefelau cyrhaeddiad dysgwyr ag anghenion ychwanegol. Dylid nodi anghenion yn gynnar a dylid mynd i'r afael â hwy yn gyflym fel bod pawb yn cael cyfle, fel y dywedais, i gyrraedd eu potensial. Rwyf eisiau i bob disgybl allu mwynhau eu haddysg, i fod yn uchelgeisiol ac i lwyddo beth bynnag y maent yn dewis ei wneud, a dyna pam rydym wedi datblygu rhaglen drawsnewid ynghyd â'r Ddeddf ADY, oherwydd ni fydd unrhyw beth yn llai na thrawsnewidiol yn dderbyniol. Rwyf wedi ymrwymo £20 miliwn i hyn dros gyfnod y Cynulliad hwn i ddarparu cymorth, cyngor a her i awdurdodau lleol, ysgolion, lleoliadau blynyddoedd cynnar a sefydliadau addysg bellach wrth iddynt baratoi i weithredu'r diwygiadau ADY. Bydd cyfran sylweddol o'r £20 miliwn o gyllid yn mynd tuag at ddatblygu'r gweithlu. Yn unol â'n cenhadaeth genedlaethol ar gyfer addysg, rwyf wedi dyrannu £289,000 dros dair blynedd i gefnogi hyfforddiant proffesiynol i weithlu cymorth synhwyraidd yr awdurdodau lleol. Mae'r cyllid hwn yn cynnwys hyfforddiant BSL ar amrywiol lefelau, a hyfforddiant ôl-raddedig i athrawon y byddar.
Rydym hefyd yn datblygu dull cenedlaethol o weithredu dysgu proffesiynol gydol gyrfa—dull sy'n adeiladu capasiti addysgwyr o bob math, gan gynnwys staff cymorth addysgu, athrawon dosbarth ac arweinwyr ysgolion. Yr hydref diwethaf, buom yn ymgynghori ar safonau proffesiynol drafft ar gyfer cynorthwyo addysgu, ac rydym yn disgwyl y byddant yn barod ym mis Medi eleni. Mae dysgu proffesiynol gydol gyrfa yn un o bum dimensiwn y safonau hyn, ac mae'n berthnasol er mwyn ateb anghenion pob dysgwr. Cyfeirir at bwysigrwydd hyn yn y gwerthoedd a'r ymagweddau trosfwaol a ddaw gyda'r safonau. Rydym wedi sicrhau bod cyfrifoldebau penaethiaid i hwyluso hyn wedi'u cynnwys yn eu safonau arweinyddiaeth ffurfiol.
Mae ein blaenoriaethau i godi safonau, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad ar gyfer pob myfyriwr a meithrin hyder y cyhoedd yn ein system addysg yn ganolog i'n gweledigaeth a'n gweithredoedd ar gyfer addysg yng Nghymru. Caiff pob un o'r diwygiadau rydym yn gweithio arnynt gyda'n gilydd eu gyrru gan y tair blaenoriaeth, a bydd eu cyflawni'n sicrhau bod ein holl ddysgwyr a'n holl athrawon yn cael eu cefnogi i fod y gorau y gallant fod. Rwy'n hapus iawn, Lywydd, i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad pan ddaw'r adroddiad a gomisiynwyd i law. A gaf fi orffen drwy ddweud fy mod yn hapus iawn i gefnogi Iaith Arwyddion Prydain? [Arwyddo mewn BSL.]