Part of the debate – Senedd Cymru am 4:00 pm ar 6 Chwefror 2019.
Hoffwn ddiolch i'r Aelodau a gyfrannodd at y ddadl hon. Rwy'n ymddiheuro am fethu ymateb i'r Aelodau'n unigol, ond mae'r amser sydd ar gael yn gyfyngedig iawn. Felly, rwyf am ganolbwyntio ar ymatebion y Gweinidog. Mae'n braf iawn gwybod y gallwch gael lefelau 1 a 2 mewn BSL, ac mae hefyd yn braf canfod bod yna gronfa o £20 miliwn bellach yn cael ei rhoi—ond eto, yn anffodus, i gynghorau lleol heb fod rhan ohono wedi'i neilltuo. Felly, mae'n gwbl amlwg nad yw llywodraeth leol yn bod mor gyfrifol ag y dylai fod a'u bod yn amlwg yn methu darparu cyfleoedd BSL.