Part of the debate – Senedd Cymru am 5:47 pm ar 6 Chwefror 2019.
Felly, rydym yn pleidleisio heddiw ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar anghydraddoldeb economaidd rhanbarthol. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Rwy'n aros i rywun bleidleisio. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 12, roedd un yn ymatal, a 32 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.