Part of the debate – Senedd Cymru am 6:10 pm ar 6 Chwefror 2019.
Rydym yn gwybod—a gwn fy mod yn ailadrodd hyn o hyd—ein bod yn arwain y ffordd yn y DU ar ailgylchu, felly rydym yn dod at hyn o fan cychwyn gwahanol i'n cymheiriaid yn yr Alban a Lloegr, ond nid ydym yn hunanfodlon. Rydym am fod yn gyntaf yn y byd ar ailgylchu drwy ategu'r gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud yma ac adeiladu ar hynny gyda system sy'n gweithio i bawb ohonom yng Nghymru.
Ar hyn o bryd, rydym hefyd yn anelu at fod yn genedl ail-lenwi. Roeddwn yn falch, yn fy mhortffolio blaenorol, o gyhoeddi ein huchelgais i wneud hyn ac i weld llawer o gymunedau ledled y wlad yn gwneud hyn yn awr. Nodaf hefyd fod awdurdod lleol yr Aelod, Caerffili, yn y broses o sefydlu cynllun ail-lenwi ar draws y sir ac yn mynd ati'n rhagweithiol i annog busnesau yn yr ardal i fod yn fannau ail-lenwi. Mae'n ffordd hynod o syml ond effeithiol iawn nid yn unig o helpu pobl o ran iechyd a lles ac ailhydradu ond hefyd i leihau'r defnydd o boteli plastig untro yn y broses.
Rydym wedi sôn am drethiant yma heddiw. Rydym yn gwybod bod Llywodraeth y DU yng nghyllideb 2018 wedi cyhoeddi mesurau mewn perthynas â threth ar blastig. Mae Trysorlys Cymru bellach yn gweithio gyda Thrysorlys EM ar y posibilrwydd o [Anghlywadwy.] dreth ar waredu plastig untro drwy drethiant, ac rydym yn monitro datblygiad cynigion yn y maes hwn yn fanwl i wneud yn siŵr fod rhanddeiliaid yn cael cyfle i helpu i lywio syniadau a bod unrhyw fesurau'n addas at y diben ac yn cyd-fynd â'n huchelgeisiau gyda'n ffordd Gymreig o fynd i'r afael â gwastraff.
Ar dreth ar gynwysyddion diod untro, a elwir yn aml yn y wasg ac ar lafar yn 'latte levy', rydym wedi dweud o'r blaen fod cyflwyno ardoll dreth Gymreig annibynnol neu dâl ar gynwysyddion diodydd untro yn parhau i fod yn opsiwn ar gyfer Cymru, ac mae'n rhywbeth rwy'n awyddus i'w archwilio ymhellach. Ochr yn ochr â hyn, rydym hefyd yn croesawu nodau cyfarwyddeb yr UE ar blastig untro ac yn cytuno â'r mesurau a gyflwynwyd at ei gilydd. Mae fy swyddogion ar hyn o bryd yn ystyried y testun drafft terfynol ac yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig i bennu'r ffordd orau o weithredu'r darpariaethau amrywiol sydd wedi'u cynnwys.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n ymwybodol o'r cyfyngiadau ar amser heddiw. Rydym wedi siarad am yr hierarchaeth wastraff a'r angen i leihau ac ailddefnyddio yn ogystal ag ailgylchu, ac mae nifer fawr o brosiectau ailddefnyddio'n digwydd ar draws y wlad yn awr, a bu'n bleser ymweld â nifer ohonynt. Ond un mater pwysig rwyf am ei grybwyll yw datblygu map ar gyfer gwella cylcholdeb plastig yng Nghymru. Prif ffocws hwn yw cynyddu cynnwys wedi'i ailgylchu mewn cynhyrchion plastig a chydrannau deunydd pacio a gynhyrchir yma yng Nghymru ond gan leihau ein dibyniaeth ar farchnadoedd tramor hefyd i ailgylchu'r plastig a gesglir yma.
Rwy'n meddwl ei bod hi'n hanfodol fod Cymru'n datblygu economi gylchol o ran y plastig rydym yn ei ddefnyddio, yn ei waredu ac yn ei ailbrosesu, ac rydym yn cefnogi hyn drwy ein cronfa fuddsoddi yn yr economi gylchol gwerth £6.5 miliwn. Rydym eisiau cefnogi ac annog arloesedd a thechnolegau newydd er mwyn inni allu gweld amrywiaeth ehangach o blastigion yn cael eu casglu a'u hailgylchu a chynyddu'r defnydd o blastigion wedi'u hailgylchu yn y sector gweithgynhyrchu. Bydd hyn nid yn unig yn effeithlon o ran lleihau gwastraff plastig ond gall hefyd greu mwy o swyddi a helpu i dyfu ein heconomi. Felly, pan gawn bethau'n iawn ar yr amgylchedd, gallwn weld ei fod yn gallu sicrhau manteision economaidd ehangach. Ac rydym yn gweld mwy a mwy o sefydliadau megis siopau diwastraff a phoblogrwydd hynny'n tyfu ar draws y wlad, ac mae hynny i'w groesawu. Credaf ein bod wedi dweud yma o'r blaen ein bod bron â chau'r cylch. Rydym wedi ymhyfrydu yng nghyfleustra'r diwylliant gwastraffus yn y gorffennol, ac yn awr ceir sylweddoliad cynyddol ynglŷn â'r effaith a gaiff hynny heddiw ac yn y dyfodol, felly mae mwy o bobl yn ailfeddwl am ein hymddygiad ein hunain a sut i leihau ein defnydd ein hunain o blastig untro hefyd. Soniodd yr Aelod am rai yn ei etholaeth ei hun, gan gynnwys Transcend Packaging, sy'n gwmni Cymreig a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, ac sy'n cyflenwi gwellt papur i McDonald's ledled y wlad. Deallaf eu bod yn ei gyflwyno'n raddol ar hyn o bryd, o ran McDonald's eu hun, ac rwy'n edrych ymlaen at ymweld â McDonald's yng ngogledd Cymru, lle cefais fy swydd gyntaf erioed, i weld y gwellt papur yn cael eu defnyddio yno.
Rydych chi'n iawn ein bod wedi arwain y ffordd gyda'r ardoll ar fagiau plastig, ac nid wyf yn hollol siŵr ond credaf eich bod yn iawn nad ydym am fynd mor bell â Kenya, ond mewn gwirionedd mae'n dangos sut y mae gwledydd eraill yn—. Mae hyn ar yr agenda i bob un ohonom, a'r pwynt gwirioneddol ddilys a wnewch yw peidio â gweithredu'n dameidiog, ond y gallwn feddwl am hyn mewn ffordd gyfannol a dod â'r holl bethau rydym wedi sôn amdanynt heddiw at ei gilydd, ac edrych ar effaith yr hyn a wnawn a gwneud yn siŵr ei fod yn gweithio i ni yng Nghymru. Mae cyfrifoldeb ar bob un ohonom i weithredu, a chredaf y gallwn weld heddiw ein bod yn gwneud hynny. Mae'r ymwybyddiaeth yn tyfu, ac mae ein cymunedau'n arwain y ffordd. Mae ein gwlad wedi arwain y ffordd cyn hyn, ac yn bersonol, rwy'n teimlo'n angerddol ynglŷn â hyn, ac mae'r Llywodraeth yn rhoi blaenoriaeth wleidyddol i barhau i arwain y ffordd er budd ein hamgylchedd, yr economi a chenedlaethau'r dyfodol.