Part of the debate – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 12 Chwefror 2019.
Diolch, Llywydd.
Popeth sydd gen i, byddwn i wedi ei roi yn hapus i beidio â bod yn sefyll yma heddiw.
Nid fy ngeiriau i, ond rhai'r Arlywydd Johnson i'r Gyngres ar ôl iddo gymryd drosodd oddi wrth y gwladweinydd arall hwnnw, Kennedy. Popeth sydd gen i—nid wyf i'n dyfynnu'r geiriau hyn o ganlyniad i ddiffyg diolchgarwch wrth ddod i'r sedd hon, nac yn wir o ddiffyg penderfyniad i wneud y gorau y gallaf, ond rwy'n eu dyfynnu yn hytrach gyda thristwch dwys o golli fy ffrind. Mae'r golled honno yn rhywbeth sy'n ein huno.