Datganiad Personol

Part of the debate – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 12 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 1:32, 12 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Rwyf i wedi siarad am gewri a chredaf fod hynny'n briodol gan fod y lle hwn wedi ymddangos fel lle hudolus i mi erioed. Mae pethau yn dod i fodolaeth yma nad oedden nhw'n bodoli cynt—ie, deddfau, ond hefyd syniadau, cynghreiriau. Mae wedi bod yn freuddwyd i mi fod yma ers amser maith, nid erioed o dan yr amgylchiadau hyn, ond yn freuddwyd serch hynny. Dysgodd Yeats i mi bod cyfrifoldebau yn dechrau mewn breuddwydion. Mae gen i gyfrifoldeb i bobl Dwyrain De Cymru i wneud y gorau y gallaf, i fy mhlaid ac i'm grŵp, ac mae gen i gyfrifoldeb i Steffan. Nid wyf i'n ei gymryd yn ysgafn. Gwn fod yn rhaid i mi roi'r cwbl sydd gennyf drosto ef. Gwn hynny, ni waeth ble yn y Siambr hon yr wyf i'n eistedd, bydd llawer ohonoch chi'n meddwl fy mod i yn lle Steffan, ac nid oes ots gen i am hynny. A dweud y gwir, byddaf yn ei ystyried yn anrhydedd. Oherwydd er mai fi yw aelod mwyaf newydd y Siambr, yn lle Steffan, rwyf i wedi cael y sedd orau yn y tŷ.

Rwyf i yn lle Steffan, ond ni wnaf i byth ei ddisodli. Rwy'n gobeithio y gwnewch chi fodloni i mi ei rannu ag ef. Diolch. [Cymeradwyaeth.]