Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 12 Chwefror 2019.
Wel, diolch i Llyr Gruffydd am y cwestiwn. Dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddweud yn glir nad yw Brexit heb gytundeb yn opsiwn, a gofyn am estyniad i erthygl 50. Drwy wneud hynny, byddai modd lleddfu’r effaith ariannol a deddfwriaethol ar Gymru. Yn y cyfamser, rydyn ni’n symud ymlaen i gywiro diffygion mewn cyfraith sy’n deillio o’r Undeb Ewropeaidd.