Cymorth Iechyd Meddwl

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 12 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 1:36, 12 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi ei bod hi'n bwysig iawn, pan fyddwn ni'n cynllunio gwasanaethau i unrhyw un, ond yn enwedig i bobl ifanc, ein bod ni'n clywed eu lleisiau nhw yn y broses honno. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n ymwybodol bod ein Senedd Ieuenctid eisoes wedi nodi iechyd meddwl a gwasanaethau iechyd meddwl fel un o'u blaenoriaethau. A hoffwn eich gwahodd chi i ymrwymo heddiw fel Llywodraeth i weithio gyda'r Senedd Ieuenctid, gan roi ystyriaeth ddifrifol iawn i'r awgrymiadau a ddaw ganddyn nhw, a sicrhau, wrth i ni wella gwasanaethau ar gyfer iechyd meddwl ein pobl ifanc yng Nghymru, bod lleisiau'r bobl ifanc hynny yn gwbl ganolog. Fel y bydden nhw'n ei ddweud, 'Dim byd amdanom ni hebom ni'.