Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 12 Chwefror 2019.
Llywydd, mae'r Aelod yn gofyn am ffeithiau, a gadewch i mi roi 888 miliwn ohonynt iddo, oherwydd dyna nifer y punnoedd yn llai sydd gennym ni i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru heddiw o ganlyniad i'w Lywodraeth ef ers y flwyddyn 2010—£880 miliwn yn llai. Mae pob un o'r punnoedd hynny yn ffaith y gallem ni fod yn ei defnyddio i wario ar wasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru. Os yw e'n credu nad yw athrawon yng Nghymru yn deall bod y problemau y maen nhw'n eu hwynebu yn yr ystafell ddosbarth yn deillio o'r penderfyniadau y mae ei Lywodraeth ef wedi eu gwneud ac yr ydym ni'n gorfod ymdrin â nhw bob dydd, yna, mae gwir angen iddo fynd allan ychydig yn amlach a siarad â'r bobl sy'n deall hyn ar y rheng flaen.