Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 12 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 1:58, 12 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, bythefnos yn ôl, fe wnaethoch chi ailddatgan bwriad Llywodraeth Cymru i ddeddfu ar ddileu'r amddiffyniad o gosb resymol. Wnaf i ddim gofyn i chi a ydych chi'n dal i fwriadu cyflwyno gwaharddiad ar smacio plant, gan fod yr hyn a ddywedasoch y tro diwethaf yn gwbl eglur. Dywedasoch eich bod yn benderfynol y byddai'r gwaharddiad yn mynd drwy'r Cynulliad yn ystod y tymor Cynulliad hwn ac yn cael ei roi ar y llyfr statud. O gofio bod y ddeddfwriaeth hon yn debygol o fod yn amhoblogaidd iawn, pam ydych chi mor benderfynol o greu cyfraith newydd yn y maes hwn?