Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 12 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:52, 12 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Lle'r wyf i'n cytuno â nhw yw pan fyddan nhw'n cyfeirio at y ffaith bod y cyni cyllidol a orfodwyd ar Gymru gan ei Lywodraeth ef yn cael yr effaith y maen nhw'n ei resynu, ac rwyf innau'n gresynu'r ffaith, ac yn gresynu bob dydd, nad ydym ni'n gallu buddsoddi i'r graddau y byddem ni'n hoffi ei wneud yn ein hysgolion, yn ein hysbytai, mewn tai ac yn yr holl bethau eraill yr hoffem ni ei wneud yng Nghymru. Ond mae'r gymdeithas y mae'n cyfeirio ati—ac rwyf i wedi gweld eu llythyr—yn rhoi eu bys ar ble mae'r bai, ac mae'n gorwedd gydag ef a gyda ei Lywodraeth ef.