Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 12 Chwefror 2019.
Diolchaf i Mark Isherwood am hynna. Llywydd, hoffwn i egwyddorion cyd-gynhyrchu sbarduno dull Llywodraeth Cymru yn ei gwaith gyda'r trydydd sector ac eraill. Er mwyn cyflawni hynny, rydym ni'n gweithio'n agos gyda Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru, Academi Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru, sy'n annog cydgynhyrchu drwy hyfforddiant, digwyddiadau ac adnoddau ar-lein.