Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 12 Chwefror 2019.
Wel, Llywydd, a gaf i ddiolch i Mike Hedges am y cwestiwn dilynol pwysig iawn yna? Cydnabuwyd Iaith Arwyddion Prydain yn ffurfiol gan y Cynulliad Cenedlaethol hwn fel iaith yn ei rhinwedd ei hun mor bell yn ôl â 2004. Ac mae'n iawn ei bod hi gymaint o iaith ag unrhyw iaith arall i lawer o'r teuluoedd sy'n ei defnyddio, a cheir prinder cyfieithwyr ar y pryd a thiwtoriaid yma yng Nghymru.
Bydd yr adolygiad yn ystyried y mater hwnnw hefyd. Bydd yn ystyried y ddarpariaeth bresennol, bydd yn ystyried costau a mynediad, ond bydd hefyd yn ystyried ffyrdd y gallwn ni wella'r llif o bobl sydd â'r paratoad priodol ac sy'n gallu darparu'r mathau o gyrsiau y cyfeiriodd Nick Ramsay atyn nhw ac y mae ei etholwyr yn gobeithio gallu eu defnyddio.