Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 12 Chwefror 2019.
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn, Llywydd. Mae cynllun grant trydydd sector gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy Llywodraeth Cymru yn darparu £7 miliwn bob blwyddyn i sefydliadau trydydd sector, gan ddarparu 32 o brosiectau sy'n cynorthwyo plant, oedolion a phobl hŷn agored i niwed yng Nghymru. Mae'r grant hwn ar waith o fis Ebrill 2016 tan fis Mawrth 2020.