Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 12 Chwefror 2019.
Diolch i Lynne Neagle am hynny. Daeth dadansoddiad economaidd Llywodraeth y DU, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd, i'r casgliad y byddai gostwng ymfudo o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd i sero yn gostwng cynnyrch domestig gros y DU bron 2 y cant. Byddai effaith rhoi terfyn ar ryddid i symud yn cael ei deimlo'n uniongyrchol mewn busnesau yng Nghymru, prifysgolion a gwasanaethau cyhoeddus.